Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYNNWYSIAD.

RHAN I.

PENNOD I.—Cyff-genedl y Cymry, a'u Dyfodiad cyntaf i'r Ynys hon

PENNOD II.—Y Rhyfel a'r Rhufeiniaid. Hwynt-hwy yn anghyfiawn yn treisio y Brytaniaid o'u gwir eiddo

PENNOD III.—Y Rhyfel fu rhwng y Brytaniaid a'r bobl a elwid y Ffitchiaid, neu y Brithwyr

PENNOD IV.—Y Rhyfel a fu rhwng y Brytaniaid a'r Seison. Brad y Cyllyll Hirion. Hanes Uthr Bendragon, Arthur, &c. Tywysogion Cymru. Ychydig o Gyfraith Howel Dda'

PENNOD V.—Eilunod amryw genedloedd. Eilunaddoliaeth yr hen Frythoniaid cyn amser Crist. Eu Hoffeiriaid a elwid y "Derwyddon." Eu Moesau. Yng nghylch y Iaith Gymraeg

RHAN II.

PENNOD I.—Yng nghylch Pregethiad yr Efengyl drwy yr holl fyd, ond yn enwedigol ym Mrydain; gan bwy, ac ym mha amser

PENNOD II—Lles ab Coel y brenin cyntaf o'r byd mawr a dderbyniodd y ffydd Gristionogol. Erlidigaeth fawr o achos y ffydd ym Mrydain. Merthyrdod Alban. Heresi Arius. Heresi Morgan. Dyfodiad Garmon a Lupus yma o Ffrainc. Y Ffurf o Weddi ag oedd yn y Brif Eglwys ym Mrydain

PENNOD III.—Heresi Morgan yn attyfu eto. Y Gymmanfa yn Llanddewi Brefi. Am Ddewi a Gildas. Pla y Fall Felen. Awstin Fonach yn pregethu i'r Seison. Llygredigaeth Eglwys Rhufain y pryd hwnw. Esgobion Brydain yn siarad ag Awstin Fonach. Merthyrdod y Mynachod o Fangor is y Coed

PENNOD IV.—Pabyddiaeth yn ymdaenu drwy Gymru. Pregeth S. Antwn i'r Pysgod. Amryw hen Ystorïau ofergoelus, allan o Giraldus, Archddiacon Ty Ddewi, yr hwn a ysgrifenodd ei hanes yn y flwyddyn 1188

PENNOD V.—Gweinidogion y Brif Eglwys. Swydd Esgob, Offeiriad, a Diacon. Eu mawr barch yn yr amser gynt

PENNOD VI. Gweinidogaeth y ddau Sacrament, Bedydd a Swper yr Arglwydd, yn y Brif Eglwys

PENNOD VII.—Addoliad Duw ar gyhoedd yn yr Eglwysydd, a'r Drefn o Addoliad Duw yn eu Teulu Gartref yn y Brif Eglwys

PENNOD VIII.—Pa gyfryw Lanoedd, neu Eglwysydd, oedd gan y Prif Gristionogion. Y Goruwch Ystafelloedd. Amryw ystyr y gair "Eglwys" yn y Testament Newydd. Y Tair Dosbarth yn yr Eglwysydd gynt. Scism i bregethu allan o'r Eglwysydd. Yng nghylch Clych

PENNOD IX.—Rhinweddau y Prif Gristionogion yn gyffredinol, sef yw hyny, eu Gostyngeiddrwydd, Diweirdeb, a'u Hamynedd yn dyoddef. Yr amryw fodd yr oeddid yn eu rhoddi i farwolaeth. Eu Hufudd—dod i'r Awdurdodau Goruchel

PENNOD X.—Onestrwydd y Prif Gristionogion yn eu masnach. Eu casineb at Anghyfiawnder a Chelwydd. Barnedigaeth Duw ar Gelwyddwyr. Eu gofal tros y Tlodion. Eu parodrwydd i ymweled â'r Cleifion. Eu Haelfoni at y Brodyr. Eu Hundeb a'u Brawdgarwch. Amryw Siamplau ar bob un o'r penau hyn