Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond nid oeddent ond cynnifer o grwydredigion ladronach ar y cyntaf, ac yng ngwasanaeth y Cymry, y rhai oedd feistraid arnynt; ïe, ar ol eu myned yn gadarn yn y byd, ac yn dechreu hyrddu eu cymmydogion gweinion, eto gorfu iddynt ymostwng i gleddyf dau Gymro, a dau frawd hefyd, Beli a Brân, meibion Dyfnwal Moelmud.[1] Nid oedd galon yng ngwŷr Rhufain i sefyll yng ngwyneb y brodyr enwog hyn, eithr yn cilio idd eu llochesau, fel y gwelwch chwi lu o fechgynos yn ffoi oddi wrth darw gwyllt a fai'n cornio.

O hyn y mae fod cymmaint o eiriau Cymraeg yn y iaith Ladin, o herwydd fod y Lladinwyr gymmaint o amser dan iau y Cymry; ac y mae'n naturiol i dybied, y bydd y gwanaf yn benthycio gan y trechaf, a bod y gweision yn dynwared iaith y meistraid. Camsynied erchyll yw tybied i ni fenthycio y fath luaws o eiriau oddi wrth y Rhufeiniaid, [2] fel y mae Pezron ddysgedig wedi profi tu hwnt i ammheu neb a fyn ymostwng i reswm. [3] Nid ydys yn gwadu na fenthyciodd ein hynafiaid amryw eiriau Lladin tra fu y Rhufeiniaid yn rheoli yma ym Mrydain, a hyny oedd agos i bum cant o flynyddoedd, sef o amser Iul Caisar hyd y flwyddyn o oed Crist 410; ond nid yw hyny ond ambell air, ac eto heb lwyr golli yr hen air priodol i'r iaith, megys i enwi mewn un neu ddau : Ysbeilio sydd air Lladin; ond y mae'r hen air fyth yng nghadw, sef yw hwnw, Anrheithio. Gair Lladin yw Rhod; ond y mae'r hen air heb fyned ar goll, sef yw hwnw, Olwyn. [4]

Ond yma yr wyf yn barod eisys i goelio, y bydd rhai yn dywedyd nad yw y rhai hyn ond chwedlau gwneuthur, fod y Cymry unwaith yn byw yn Ffrainc, ac mor enwog yn y byd am eu gwroldeb. Ond er annhebyced y tybir hyny yn awr, nid oes, er hyny, un peth wirach mewn histori. Canys, nid i son fod ym mysg y ddwy genedl, sef trigolion Ffrainc a'n hynafiaid ninnau o'r ynys hon, yr unrhyw ddefodau ac arferion, yr unrhyw grefydd ac adnabyddiaeth o'r Duwdod, yr unrhyw fath o offeiriaid a Derwyddon-i adael hyn heibio, meddaf (ac eto yr ydys yn haeru llawer peth ar waeth rhesymau), y mae Iul Caisar-yr hwn a ysgrifenodd agos er ys deunaw cant o flynyddoedd a aethont heibio, a'r hwn a fu dros ddeng mlynedd yn rhyfela yn Ffrainc, ac a fu ryw ychydig ym Mrydain-y mae Iul Caisar, meddaf, yn dy-

  1. Galf. Monem. lib. 3. cap. 8, 9.
  2. Vid. Camd. Britan. ed. Gibs.& Llwyd, p. 658, 659.
  3. Antiq. of Nations.
  4. Vid. Dav. Præf. ad Lexic.