wedyd ar ei air yn oleu, fod tafodiaith y ddwy deyrnas yn bur debyg i'w gilydd, hyd ddim a allasai efe farnu wrth glywed trigolion y naill deyrnas a'r llall yn siarad.[1] Y mae awdwr arall, a ysgrifenodd o gylch hanner cant o flynyddoedd ar ol Iul Caisar,[2] ac un arall o gylch deugain mlynedd ar ol hyny, [3] yn tystio ill dau yr un peth, nad oedd ond y dim lleiaf o wahaniaeth rhwng iaith y naill deyrnas a'r llall, sef rhwng iaith trigolion Ffrainc a'n hynafiaid ninnau, y rhai oeddent yn byw y pryd hyny yn Lloegr. Fe allasai fod, ond odid, gymmaint o wahaniaeth a rhwng Gwynedd a Deheudir, neu, fe allai, ryw ychydig chwaneg. Ond beth er hyny? Diammheu mai'r un bobl oeddent o'r dechreuad.
Hefyd, heb law cyssondeb yr iaith, ystyried un dyn nesed yw teyrnas Ffrainc i Loegr: nid oes ond cainc o fôr rhyngddynt, lle y gall dyn â llygad craffus ganfod o'r naill lan i'r lan arall, ar ddiwrnod dysglaer. Ynys Brydain, gan hyny, yn ddiammheu a boblwyd ar y cyntaf allan o'r wlad nesaf ati, megys y poblwyd yr Iwerddon allan o'r wlad hon.
Ond yma y mae i ni ddal sylw, mai nid Ffrainc oedd enw y wlad a elwir felly yn gyffredin yn awr: nag e; fe a'i galwyd hi Ffrainc gan y trigolion sydd yn awr yn aros ynddi, y rhai, a hwy yn farbariaid ysgymmun ar y cyntaf, a oresgynasont y wlad, drwy ladd a llosgi yr hen drigolion, o gylch yr un amser ag y darfu i'r Seison, barbariaid ereill, oresgyn drwy frad yr ynys hon oddi ar yr hen Frytaniaid. Eithr enw y wlad ar y cyntaf oedd y Gelli, o blegid ei bod hi yn wlad hyfryd a rhagorol, a ffrwythlawn a choediog; megys y gwelwn ni amryw leoedd eto yng Nghymru o'r un enw. hen drigolion cyntaf a alwent eu hunain y Gwyddelod, [4] weithiau y Gwylliaid;[5] ond yr enw cyffredin yn llyfrau hanesion, yw y Cymry.[6]
Y mae traddodiad hyd y dydd heddyw ym mysg y werin bobl (er nad ydys yn edrych ar hyny ond megys hen chwedl) fod y Gwyddelod, ryw bryd yn yr amseroedd gynt, yn frodorion Cymru a Lloegr; ond y mae yn ddilys ddigon eu bod hwy, megys nad oeddem ni a hwythau ar y cyntaf ond un genedl. Ac yn wir, prin y gall un dybied amgen ond o'r un dorllwyth daeth y ddwy genedl allan, sef y Cymry a'r Gwyddelod, yr hwn a ystyrio y lluaws geirau sydd o'r un ystyr gyda