Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond er hyn oll, ni laesodd calon y Brytaniaid i sefyll allan yn erbyn gormes y Rhufeiniaid; ond yr oeddent yn awr yn fwy llidiog nag o'r blaen i ddïal arnynt am y sarhâd o ddwyn Caradog yn garcharor i Rufain. Eu pen capten, ar ei ol ef, a elwid Arifog; ac efe a ymladdodd â hwy lawer brwydr waedlyd, ambell waith yn cael y trechaf, ac ambell waith yn colli. Ond beth a allai un genedl wneuthur yn chwaneg tuag at gynnal ei gwlad a'i gwir eiddo rhag treiswyr gormesol, nag a wnaeth y Brytaniaid yma? Calondid, a gwroldeb, a medr i drin arfau rhyfel oedd ganddynt gystal ag un genedl arall dan haul; ond pan oedd gwŷr o newydd yn ymruthro o hyd arnynt (megys yr oedd y Rhufeiniaid yn codi gwŷr o bob gwlad, a'u danfon i Frydain), pa le yr oedd yn bosibl iddynt ymgadw? Y mae genym achos yn hytrach i ryfeddu pa fodd y gallasant sefyll allan gyhŷd.

Ac yma daliwn sylw ar gyfrwysdra y Rhufeiniaid i gadw craff ar y wlad a oresgynent drwy nerth arfau; canys yr oeddent yn arferol o arllwys y wlad hòno cyn llwyred ag oedd bosibl o'i rhyfelwyr, fel y gallent, drwy nerth eu harfau hwy, ennill gwledydd ereill, ac er cadw y wlad a eresgynid dan law. Nid llai nag ugain mil o Frytaniaid oedd gyda Thitus ab Fespasian yn ymladd yn erbyn Ierusalem; [1] ac yn eu lle y danfonwyd trosodd filoedd a miloedd o bobl yr Ital, y rhai a ymwthiasont i bob man hyfryd, megys haid o gilion gwancus yn tyru i badell o ddwfr a mêl, ac yn soddi ynddo; neu megys cenfaint o foch gwylltion yn tori i gae o wenith, ac ar hyny yr hwsmon yn galw ei gŵn ac yn eu llarpio. A thyna fel y dygwyddodd i'r Rhufeiniaid disberod yma yn y diwedd, fel y dangosaf isod.

Canys yr oedd y rhai hyn yn gwneuthur castiau hagr â'r hen drigolion; yn eu gwatwar, a'u galw wrth bob enw cras a'r a allasai digywilydd-dra noeth ei ddychymmyg. Os byddai tiroedd neu dai wrth fodd y Rhufeiniaid, fe orfyddai ar y perchenogion ymadael â hwy; a'r cyffredin bobl hwythau yn gorfod gweithio yn galed o foreu hyd hwyr, ac estroniaid yn cael yr elw. Ac os beiddiai neb achwyn fod hyny yn dost, fod estroniaid yn meistroli trwy drais, ac yn gwneuthur y trigolion yn gaethweision yn eu gwlad eu hun, hwy gaent aml ffynodiau am eu cwyn, ac yn fynych eu trywanu â'r cleddyf.

  1. Jos. Antiq., abridged by J. Howell, Esq., p. 255.