Ië, yr oedd Ꭹ Rhufeiniaid yn awr wedi myned mor ysgeler,
megys nad oeddent yn edrych ar oreuon y deyrnas ond megys cŵn a barbariaid; fel (ym mysg ereill) y mae genym hanes iddynt wneuthur ag arglwydd mawr a elwid Brasydog;[1] canys hwy a ysbeiliasant ei balas o bob peth gwerthfawr ag oedd ganddo; ac a'i arglwyddes [2] yn ymresymu yn llariaidd â hwy am eu trais a'u cribddail, hi a gurwyd â gwïail nes ei bod yn hanner marw, a threisiwyd ei merch o flaen ei llygaid; ac i gwblhau ar y cwbl, dygpwyd delw a wnaed ar lun yr ymherawdr, a phwy bynag nid ymgrymai o'i blaen a'i haddoli, osodid i farwolaeth.
Yr oedd hyn, yn ddilys, yn fyd tost ac annyoddefol; ac ar hyny y cydfwriadodd arglwyddi a phendefigion y deyrnas i ruthro arnynt, a'u tori ymaith yn gwbl, hen ac iefainc, oddi ar wyneb y wlad; megys y gwelwch chwi lafurwr yn son am ddiwreiddio drain, ac ysgall, a mieri, rhag eu bod yn anffrwythloni y tir. Yr oedd hyn yn ddïau yn gydfwriad cethin ac ysgeler; ond dyna oedd eu barn hwy y pryd hwnw.
Yn y cyfamser yr oedd holl lu y Rhufeiniaid, gan mwyaf, sef eu holl ryfelwyr a'u gwŷr arfog, wedi myned i oresgyn Ynys Fon. Nid oedd yr ynys hòno y pryd hwnw ond trigfa o wŷr crefyddol, a elwid y Druidion, y rhai megys cenedloedd ereill,[3] oeddent yn anad un lle arall yn dewis rhodfeydd tywyll dan dderi cauadfrig, i aberthu a galw ar y duwiau, megys yr oedd Ynys Fon y pryd hwnw yn llawn o laneirch a llwynau pendewon; a hyn yw meddwl y Bardd:
"Nos da i'r ynys dywell: Ni wn oes un ynys well."
LLYWELYN GOCH AB MEURIG.
Nid oedd gwŷr Mon, fel y dywedais, ddim rhyfelwyr mawr y pryd hwnw, ond cymmanfa o wŷr crefyddol; a hwy a dybiasant [a] y dangosai y Rhufeiniaid barch iddynt ar y cyfrif hwnw. Y Druidion, heb ddim arfau rhyfel, a gadwent y blaen, gwedi eu gwisgo mewn gynau symmudliw, capan côr taleithiog ar eu penau, a ffyn hirion parwyn yn eu dwylo; a'r gwyryfon yn dwyn lampau cwyr wedi eu ennyn, yn dawnsio draw ac yma drwy eu canol, yn edrych yn anferthol ac yn syn o hirbell. Fe wnaeth yr olwg o hyn, yn wir, ryw