ychydig fraw ar y cyntaf yn llu y Rhufeiniaid; ond ar ol ergydio cafod o saethau tuag atynt, buan iawn y gwasgarwyd hwy; a'r gelynion a wnaethant laddfa echrydus yn eu mysg. Y lle y tiriodd y Rhufeiniaid ym Mon a elwir hyd heddyw, Maes Hirgad; a'r ymladdfa uchod fu ger llaw Porthamel, rhwng Pwll y Fuwch a Llanidan; ac y mae man ger llaw a elwir Pant yr Ysgraffau. [1]
Yr oedd y fath alanasdra a hwn ar eu difinyddion yn chwerwi yr hen Frytaniaid fwyfwy fyth; canys ymresymu a wnaethant, "Dyma'r Rhufeiniaid-mwrddwyr a dyhirwyr ag ydynt!-wedi rhuthro ar ein hoffeiriaid a thrigolion Ynys Mon, y rhai ni wnaethant erioed y niwed lleiaf iddynt; ac wele ninnau, ar ol pob ammharch a thrais yn y byd, eto yn ymostwng iddynt fel diadell o ddefaid wedi eu tarfu gan ddau neu dri o gorgwn. Megys y gwnaethant hwy â nyni, felly gwnawn ninnau â hwynt-hwy. 'Gwell erlid arglwydd na'i ragod. Ac ar hyny, megys cnud o lewod wedi tori allan o ffau, codi a wnaethant dros yr holl wlad, a dangos cyn lleied trugaredd i'r Rhufeiniaid yn awr, ag a ddangosasant hwythau i wŷr Ynys Fon. Nid oedd yn awr dros wyneb yr holl wlad ond crechwenydd y Brytaniaid yn tywallt gwaed, ac ocheneidiau a griddfan y Rhufeiniaid. Llosgwyd teml a delw yr ymherawdr, a lladdwyd yr holl offeiriaid. Llundain, yng nghyd â'r trefydd o amgylch, lle'r oedd pobl Rhufain yn byw, a losgwyd yn ulw mân, yng nghyd â'u trigolion. Ac er nad oedd y Rhufeiniaid ddim mor anghall ddynion a gadael eu trefydd heb lu digonol o sawdwyr i amddiffyn y trigolion (heb law y rhai a aethai i Ynys Fon), eto eu gwŷr arfog hwythau a dorwyd ymaith megys un â chryman yn tori penau cawn. Mor llidiog ac mor wrolwych oeddent! Ar air, ychydig lai na phedwar ugain mil, o bob gradd ac oedran, a gwympasant yn y lladdfa echrydus hon. [2]
Ar hyn, wele ben capten y Rhufeiniaid, a eilw'r Cymry, Sywidw Paulin,[3] yng nghyd â'i wŷr arfog, yn dychwelyd o Fon. Ac er eu dyfod, erioed ni bu eu calon, un ac arall gyda'u gilydd, mor farwaidd a diddim a'r pryd hwn; canys prin y gallasent ddal eu harfau yn eu dwylo, y fath oedd eu dychryn. Gweled celaneddau meirw eu cydwladwyr yn gorwedd yma ac acw cyn dewed ar hyd wyneb y meusydd a hen ddefaid