yn trigo o'r pwd mewn gauaf dyfrllyd! gweled eu dinasoedd a'u caerau yn mygu dros wyneb yr holl wlad! ac yn anad dim, gweled y Brytaniaid â llu cadarn ganddynt, o leiaf, bedwar cymmaint a'u llu hwy! ar air, ni fu dim rhyngddynt a diffodd yn barod; canys "toddodd calonau y bobl" wrth weled y fath ddistryw, ac yr aethant fel dwfr." [1] A dilys yw, na tharawsent ergyd, oni buasai fod eu pen capten yn wr call a glew hefyd: canys ar ei waith ef yn eu gweled yn delwi ac yn ymollwng, efe, â wyneb siriol, a'u galwodd yng nghyd, ac yna a areithiodd yn y wedd hon: "Ha wŷr," eb efe, "ai digaloni a wnewch rhag dadwrdd a bloeddian y barbariaid acw? Beth yw eu llu, gan mwyaf, ond menywetach ffol, y rhai a fuasai yn well syberwyd iddynt aros gartref wrth eu rhod a'u cribau. Ac am eu gwrywaid, beth ynt ond cynnifer lleban difedr i drin arfau rhyfel? Ymwrolwch, gan hyny, chwi Rufeiniaid, dychryn gwledydd; a byddwch nerthol y waith hon, a chwi a welwch y barbariaid hyn yn gelaneddau meirwon dan eich traed yn ebrwydd."
Ar hyny Buddug, gwraig Brasydog, cadbenwraig llu y Brytaniaid (canys benyw oedd ben y gad y tro hwn), a areithiodd hithau, gan ddywedyd,[2] "Adnabyddwch, O Frytaniaid, er fy mod i ol yn ol o waed breninol, eto nid yw edifar genyf, er nad wyf ond benyw, i gydfilwrio â chwi dros yr achos cyffredin, sef i amddiffyn ein gwlad, ein hawl, a'n heiddo rhag trais anrheithwyr ysgymmun, y Rhufeiniaid ysgeler acw. Dialed Duw arnynt am y cam a'r sarhâd a wnaethant hwy, ni ddywedaf i myfi fy hun a'm teulu yn unig, ond i holl genedl y Brytaniaid! Am danaf fy hun y dywedaf, ni fyddaf fi byth yn gaethwraig dan eu llywodraeth; dewised y sawl a fyno. Ac od oes ynoch galonau gwŷr, ymddygwch fel gwŷr yn awr; myfi a wnaethym, ac a wnaf fy rhan i." Ar hyny ergydio a wnaethant eu saethau cyn amled a chafod o genllysg at y gelynion; ac mor hyderus oeddent i ennill y maes (a hwy y fath lu mawr anferthol o bob rhyw ac oedran), yn gymmaint a bod miloedd a miloedd yn gynnifer pentwr yma ac acw ar benau'r bencydd, acereill mewn meni a cherbydau, wedi dyfod yng nghyd yn unig i weled dyfetha'r Rhufeiniaid. Mor fyrbwyll a nawswyllt oeddent! Y Rhufeiniaid hwy a dderbyniasant y gafod gyntaf o