Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

saethu yn ddigyffro, heb fyned allan o'u rhestr; ond ar ol i'r Brytaniaid oeri ychydig o'u brwd ymgyrch, cydio a wnaethant eu tarianau yng nghyd, i ymachub rhag y saethau, a rhuthro arnynt i ymladd lawlaw â'u cleddyfau llym daufiniog. Nid oedd y Brytaniaid hwy yn gydnabyddus â'r fath ymgyrch a hwn, lawlaw frigfrig: ac nid oedd ganddynt hwy ond cleddyfau unfiniog, à blaen pŵl, â'u plyg tuag i fyny; ac o achos hyn o anfontais, ond yn anad dim o herwydd eu bod blith draphlith, heb eu byddino yn drefnus, hwy a fathrwyd gan y gelynion megys crin-goed yn cwympo mewn tymmestl. Ychydig lai na phedwar ugain mil a gwympodd y dydd du hwnw, o bob gradd ac oedran; er nid cymmaint a hyny o wŷr arfog; ond rhwng gwragedd, a gwyryfon, a phlant, a'r werin wirion o gylch. Canys mor ffyrnig oedd y Rhufeiniaid y tro hwn, fel nad arbedasant nac hen nac iefainc, nac hyd yn oed y benywod yn eu griddfan,[1] ond trywanu pawb yn ddiwahân, cynnifer ag a ddaethant o fewn eu cyrhaedd. A Buddug hithau, meddant hwy, o chwerwder a gofid calon a wenwynodd ei hun. O gylch blwyddyn yr Arglwydd 62, y bu hyny.

Ar ol hyn, digon gwir, yr eangodd llywodraeth y Rhufeiniaid, ond nid heb golli llawer o waed, ac ymladd megys am bob troedfedd, a goresgyn trwy rym y cleddyf. Bu ymladdfa waedlyd drachefn ym Môn; un arall â gwŷr y Deheubarth, y rhai, fel y tystia y Rhufeinwyr, oeddent y dynion dewraf a grymusaf y pryd hwnw o holl wŷr Brydain. Ac o gylch dwy flynedd ar bymtheg ar ol hyny, sef blwyddyn yr Arglwydd 84, y bu ymladdfa fawr a chreulon eto drachefn yn y Gogledd, yn agos i gyffiniau Iscoed Celyddon,[2] lle y cwympodd o'r Brytaniaid, os gwir a ddywed hanesion Rhufain, ddeng mil o wŷr, dan eu pen cadben a elwid Aneurin Gilgoch; ond nid ychwaneg, meddant hwy, nag yng nghylch pedwar cant o bobl Rufain; ond bod amryw bendefigion a gwŷr mawr o'r nifer hwnw.

Dyweded y neb a fyn ei ddewis chwedl, ni bu cymmaint o daraw ar y Rhufeiniaid erioed ag a gawsant ym Mrydain; canys, am wledydd ereill, ar ol ymladd ac ennill y maes ddwywaith neu dair, y trigolion yno a ymostyngent i geisio ammodau heddwch; ond am yr hen fechgyn, y Brytaniaid, hwy a

  1. Tacit. ubi supra.
  2. Scotland.