Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

herodraeth yn llawn terfysg a helbul; ond wele bob peth yn awr yn dangneddyfus, ïe, hyd yn oed ym mysg y Brytaniaid eu hun."

Ni bu dros amryw flynyddoedd wedyn ddim rhyfel oddi eithr ambell ergyd chwyrn, ac ambell sen chwimmwth draw ac yma. Y Rhufeiniaid oedd yn awr yn feistraid, ac odid fod gwas lifrai trwy gydol y deyrnas, onid oedd yn deall ac yn siarad Lladin yn ddifai ddigon. Yn y flwyddyn 228, y gwelwyd yn y misoedd Tachwedd a Rhagfyr, seren y gynffon yn estyn ei phelydr megys tân llachar, yn ofnadwy ac yn aruthrol ei ganfod; a'r haf, dros dair blynedd ar ol hyny, oedd mor wlybyrog fel nad addfedodd nac yd na ffrwythau coed; yr hyn a barodd ddrudaniaeth, a haint, a newyn. Y bara oedd afiach, ac hyd y mae histori yn mynegu, hon oedd y waith gyntaf (er dygwydd yr un farnedigaeth amryw brydiau wedi hyny) o'i alw y bara chwydog; o blegid nad oedd e ddim yn dygymmod â chorff dyn, ond ei chwydu allan drachefn, er fod y werin druain, yn eu gwanc a'u newyn, yn gorfod ei fwyta, er ei saled. Ond y gauaf y drydedd flwyddyn y bu dur-rew parhäus o ganol Tachwedd i ddechreu Chwefror, a haf rhadlon tymmerus ar ol hyny, yr hyn, drwy fendith Duw, a ddygodd lawndid a digonolrwydd o bob dim i'r trigolion drachefn. [1]

Y pryd nesaf y mae dim crybwyll am helynt y Brytaniaid, sydd o gylch y flwyddyn 286, ym mha amser, gwr a elwid Caron, yr hwn oedd o dylwyth gwael,[2] eto yn sawdiwr gwych a dewr, a anfonwyd o Rufain yn ben ar ddeugain o longau, i gadw ymaith y Ffrancod[3] a'r Seison, y rhai oeddent yn diffeithio y wlad a elwir yn awr Ffrainc, ond y pryd hwnw y Gelli: canys pig-ladronach a gwibiaid oedd y ddwy genedl hòno ar y cyntaf, megys haid o gacwn neu wenyn ormes yn ymwthio i gwch yn llawn o fêl. Yna Caron a ymddygodd yn wrolwych, gan ddarostwng hyd lawr y crwydredigion ladronach hyny, ac ennill anrhaith fawr iawn oddi arnynt; ond yn y cyfamser efe a drodd yn ben lleidr ei hun ac yn fradwr idd ei feistr, Ymherawdr Rhufain; canys yr holl gyfoeth yma a gadwodd efe yn ei feddiant ei hun. A rhag y gelwid ef i gyfrif am hyny, efe a lanwodd ei longau â'r ysbail, ac a hwyliodd i Frydain, a thrwy ei weniaith hudol efe a ennillodd galonau'r Brytaniaid, gan wneuthur araith a dywedyd, y

  1. Ms.
  2. Villissime natus. Eutrop. Inst. p. 607
  3. Nid y Ffrancod presennol oedd yn byw yn y wlad y pryd hwnw.