caent hwy esmwythach byd dan ei lywodraeth ef na chan y Rhufeiniaid; ac y byddai efe yn gyfaill cywir iddynt rhag ymgyrch un gelyn pa un bynag; er, pan gafas efe y llywodraeth yn ei law, efe a ymddygodd yn ormeswr creulon yn hytrach nag ymgeleddwr, megys y gwelwn ni lawer boreu teg o haulwen haf yn diweddu mewn dryghin. Ond eto, o ran ei fod efe yn cadw llaw dyn ar war y Brytaniaid, ei hen feistr (Dioclesian oedd ei enw) a heddychodd ag ef, ac a gadarnhaodd ei freniniaeth ym Mrydain; am ba ham, y mae ar naill wyneb yr arian a fathwyd dan ei lywodraeth ef, ddwy fraich estynedig yn siglo dwylaw; ac y mae y fath hòno heb fyned ar goll eto.[1]
Lle nid oes dim hawl dda, y mae yno yn wastad ofn; ac felly Caron, i ddiogelu ei hunan yn y freniniaeth, a adeiladodd saith castell wrth Wal Sefer, yn gynnifer amddiffynfa i gadw allan y rhai oedd yn edrych arno ddim amgen na charn-leidr mewn awdurdod. Ac efe a wnaeth hefyd dy mawr crwn o geryg nadd ar lan Caron, i gynnal llys ynddo pan y byddai efe yn y parthau hyny.[2] Ond ar ol saith mlynedd o deyrnasiad gerwin a llym, efe a laddwy[3] 3 yn fradychus gan ei swyddog ei hun, yn yr hwn yr ymddiriedodd, a elwid Alectus. A hwn hefyd a drawsfeddiannodd y wlad dair blynedd, ac yna a laddwyd3 gan Frân ab Llyr, yr hwn a deyrnasodd chwe mlynedd, ac yna a laddwyd3 yntef gan Coel Codebog, iarll Caerloew; a'i fab Caradog a aeth i Wynedd, lle y claddwyd Bronwen, chwaer ei dad, mewn bedd petryal, ar lan Alw yn Ynys Fon; a chwedi marw Caradog, gwnaethpwyd ei fab Eyddaf yn rhaglaw Brydain gan Gystenyn Fawr, ei gefnder, fel y dangosaf isod.
Dyddiau blin oedd y rhai hyn; pan po llymaf y byddai cleddyf gwr, mwyaf gyd fyddai ei awdurdod a'i feistrolaeth. Ond ar hyny y daeth drosodd i Frydain dduwe anrhydeddus a elwid Cysteint, yr hwn a fu yn emprwr yr holl fyd ei hun wedyn. Efe a ddaeth drosodd mewn amser da; canys efe a achubodd y brif ddinas, Llundain, rhag ei llosgi a'i hanrheithio gan y Ffrancod, y rhai, yn yr annhrefn a'r afreolaeth uchod (y gwŷr mawr yn ymranu benben), oeddent yn chwilena draw ac yma am ysglyfaeth; megys pan fyddo dau waedgi yn tynu