Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r Saeson yn weddol lawn; ond ychydig iawn sydd ganddo am yr amser ar ol tua 600, er ei fod yn rhoi rhyw gipolwg ar farw Llywelyn yn 1282. Darllennodd bob awdwr oedd o fewn ei gyrraedd, yn eu mysg rai oedd yn byw yn yr amser ddesgrifiant,—megis y Lladinwyr Iwl Ond Cesar a Tacitus, a'r Brython Gildas. rhemantau dyddiau diweddarach ddarllennodd helaethaf, megis croniclau'r Saeson, a Brut Gruffydd ab Arthur. Tynnodd ychydig ar ei ddychymyg ei hun hefyd; a hynny sy'n gwneyd yr hanes mor fyw.

Y mae swyn arddull Theophilus Evans, ei Gymraeg darluniol ac eglur, ei gymhariaethau. difyr pwrpasol,—wedi gwneyd i lawer feddwl mai rhamant, ac nid hanes, yw Drych y Prif Oesoedd. Ond cam ag ef yw gwneyd hynny. Y mae'n wir ei fod yn adrodd ambell hen chwedl anhygoel, oherwydd ei bod yn ddyddorol. Ond y mae yn cadw at wir rediad yr hanes. Y manylion, y darluniau, sydd yn eiddo iddo ef. Dengys ffordd galed union hanes; a rhydd flodau o'i eiddo ei hun hyd ochr y ffordd. Y mae pob hanesydd yn gorfod rhoddi llawer o'i feddwl ei hun wrth ail greu hen oesoedd. O'm rhan fy hun, gwell gen i adroddiad yr hen Theophilus Evans na damcaniaethau byrhoedlog haneswyr Almaenaidd a Ffrengig a Seisnig y dyddiau hyn.

Y mae'r prif bethau ganddo'n eglur,—crwydr y cenhedloedd, rheoli Prydain gan y Rhufeiniaid, cymysgu'r hil, ymosodiadau'r Brithwyr a'r Saeson, diflaniad yr ynys, a'i rhannu'n fân dywysogaethau. O gylch y prif unbennaeth ffeithiau hyn gweodd lawer o ddychmygion y