ddeuddegfed ganrif a'r canrifoedd dilynol,— megis tarddiad y Cymry o Gomer, dyfodiad Brutus i Brydain, mordaith Madog ab Owen Gwynedd. Ond y mae yr holl ramantau hyn yn gysgod, mwy neu lai aneglur, rhyw ffaith hanesyddol. Ac am lawer o honynt ni wyddis yn sicr eto prun ai dychymyg ynte gwirionedd yw'r elfen gryfaf ynddynt.
Am ddyddordeb Drych y Prif Oesoedd nid oes ond un farn. Y mae'r arddull naturiol a'r cymhariaethau hapus ar unwaith yn ein denu i ddarllen ymlaen. Yr oedd hanes yr hen Gymry mor ddyddorol i Theophilus Evans ei hun fel nas gall fod yn ddim ond dyddorol i'w ddarllenwyr. Nid oes odid lyfr wedi bod mor boblogaidd yng Nghymru. Y mae dyddordeb y Cymry mewn hanes, a llawer o'u gwladgarwch, i'w briodoli i swyn arddull a mater Drych y Prif Oesoedd. Yr oedd ein tadau'n hoff iawn o hono.
Y mae llawer o amrywiaeth rhwng yr argraffiadau. Yn y llyfr hwn, ni ddilynir yr un argraffiad yn neillduol; gadawyd rhai pethau dibwys allan. Y rhan gyntaf,—sef yr hanes, yn unig sydd yma.
Codwyd darlun Caerdroia o argraffiad Llanidloes. Cwyna Theophilus Evans iddo fethu cael neb i gerfio darlun yn ei oes ef.
OWEN M. EDWARDS.
- LLANUWCHLLYN,
Awst, 15, 1898.