Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DRYCH Y PRIF OESOEDD.




RHAN 1.

PENNOD I.

Cyff-genedl y Cymry, a'u hymdaith i'r ynys hon.

GWAITH mawr, ond gwaith salw a chwith, yw adrodd helynt y Cymry,—eu haflwydd a'u trafferthion byd ymhob oes a gwlad y buont yn preswylio ynddi er pan gymysgwyd yr iaith yn Nhŵr Babel. Canys onid peth galarus a blin yw adrodd mor aniolchgar oeddent i Dduw, mor chwannog i wrthryfela yn ei erbyn, ac mor barod i syrthio i brofedigaeth y byd, y enawd, a'r cythraul, yr hyn a barodd eu bod mor anffodiog ac aflwyddiannus? Ac oherwydd i'n hen deidiau ninnau yfed anwiredd fel dwfr, bu gwir y ddiareb,—"Dinistr fydd i weithwyr anwiredd." Ac felly nyni, fel amryw genedloedd ereill, o'r diwedd, wedi i ein pechodau addfedu, a "adawyd yn ychydig bobl, lle yr oeddem fel ser y nefoedd o luosowgrwydd, o herwydd ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw." Nid oes yn wir un genedl dan haul wedi cadw ei gwlad a'i hiaith o'r hen amser gynt yn gyfan a dilwgr; nac oes un wedi cadw ei braint yn ddigoll ac yn ddigymysg. Y mae'r Iddewon ers talm yn achwyn,— Wele ni heddyw yn weision; ac am y wlad a roddaist i'n tadau i fwyta ei ffrwyth a'i daioni, wele ni yn weision ynddi." Canys y mae y Tyrciaid wedi goresgyn gwlad