Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Judea, ac nid oes gan yr Iddewon gymaint a lled troed o feddiant ynddi. Y mae'r Groegiaid hwythau, y rhai a fuont yn yr hen amseroedd yn ben ar y byd, wedi gwasgaru, megis yr Iddewon hwythau, hyd wyneb y gwledydd, a'u tiroedd a'u teyrnasoedd eang ym meddiant y Twrc. Y mae y Rhufeiniaid hefyd, y rhai, o gylch amser ein Harglwydd Iesu, oeddent feistriaid ar y rhan fwyaf o'r byd ag oedd adnabyddus y pryd hwnnw, y maent yn awr, meddaf, ers llawer cant o flynyddoedd maith, wedi darfod am danynt, hwynt—hwy a'u hiaith hefyd, ond a geffir mewn llyfrau,— a'u haw. durdod fawr gynt, wedi ei llarpio, megis burgyn gan adar ysglyfaeth. Ond yr ym ni eto, gweddillion yr hen Frutaniaid, yn trigo mewn cwr o'r ynys fawr hon, y buom gynt yn feistriaid o'r naill gwr i'r llall ohoni, ac yn cadw ein hiaith gyntaf, os nid yn berffaith gwbl, eto yn burach nag un genedl arall yn y byd. "Eu hiaith a gadwant, eu tir a gollant," ebai Taliesin. Yr oedd yr hen hobl yn yr oesoedd gynt mor anhysbys am ddechreuad trigolion cyntaf y wlad hon, fel nad oedd ganddynt na medr nac amcan tuag at hynny. Yr wyf yn cofio am un awdwr Seisnig (a eilw'r Cymry, "Gwilym Bach "), yr hwn a ddywed "gael mewn ogof yn Lloegr, yn amser y brenin Stephan, fachgen ac herlodes o liw gwyrdd dieithr anferthol, anhebyg i un dyn arall a welwyd erioed yn y byd hwn; ac mai yr opiniwn cyffredin oedd, iddynt dreiddio i fyny drwy dwll o eigion neu berfedd y ddaear," fel y mae yr awdwr yn bur ddoeth yn adrodd yn helaeth.

Er ynfyted yw y fath hen chwedlau gwallgof a'r rhai hyn, eto nid oedd rhai, ac yn cym-