Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eryd arnynt yn wyr dysgedig hefyd, ymysg y Groegiaid a'r Rhufeiniaid un tipyn callach yn eu traws-amcan aniben ynghylch trigolion cyntaf yr ynys hon; canys barn rhai ohonynt yw iddynt dyfu allan o'r ddaear, megis bwyd llyffaint.

Y mae e'n wir yn orchwyl dyrus ddigon i chwilio allan ddechreuad ein cenedl ni yn gywir ac yn ddiwyrgam, a'i holrhain o'i haberoedd i lygad y ffynnon. Ond mi a amcanaf i symud ymaith y niwl oddiar y ffordd, fel y bo ein taith at y gwirionedd yn eglur.

Wedi i Adda droseddu gorchymyn Duw, a myned a'i epil yn ddarostyngedig i bechod, amlhaodd drygioni dynolryw gymaint ag y bu "edifar gan yr Arglwydd wneuthur ohono ddyn." Ac yn y flwyddyn er pan greodd Duw y byd 1655, y danfonodd yr Hollalluog ddiluw cyffredinol i foddi dyn ac anifail. Ond Noa gyfiawn, ac er ei fwyn ef a'i deulu, a gafodd ffafr yn ei olwg, ac a achubwyd rhag gormes y dwfr diluw mewn llong, a alwn ni yn arch. Wedi achub Noa fel hyn, a dyfod ag ef i genedlaethu to megis mewn byd arall, cydfwriadodd ei epil, ymhen talm o amser, sef ynghylch can mlynedd ar ol y diluw, i adeiladu "twr a'i nen hyd y nefoedd." Mae rhai yn tybied mai yr achos a'u cymhellodd i ymosod at y fath waith aruthrol a hwn ydoedd, rhag i ddiluw eu goddiwes eilwaith, a'u llwyr ddinistrio oddiar wyneb y ddaear; a rhag ofn hynny, iddynt adeiladu y tŵr a'r ddinas i'w cadw yn ddiogel rhag llifeiriant y dyfroedd. "Gwnawn i ni enw," ebai hwy, "rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear." Er mai barn ereill yw hyn, eu bod hwy yn awr ar eu taith tua gardd