Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Paradwys; ac oblegid fod y wlad o amgylch mor hyfryd, mor llawn o beraroglau, a llysian, a ffrwythau, a phob peth arall dymunol, chwenychasant i aros yno, hwy a'u hepil, tros fyth, ac ar hynny iddynt adeiladu y tŵr a'r ddinas rhag eu gwasgaru oddiyno. Ond pa fodd bynnag yw hynny, ni adawodd yr Arglwydd iddynt ddwyn. en gwaith i ben, oblegid efe a gymysgodd eu hiaith, fel na ddeallai y naill beth a ddywedai y llall. Os dywedai un wrth ei gyfaill, "Moes i mi garreg," fe estynnid iddo ond odid gaib yn lle carreg. Os dywedai un arall," Cadw y rhaff yn dynn," y llall a'i gollyngai hi yn rhydd Fel hyn, yr iaith yn gymysg, ac megis yn estron y naill i'r llall, ni allasent byth fyned â'u gwaith yn y blaen.

Nid oedd ond un dafod-leferydd o'r blaen trwy y byd mawr, sef yr Hebraeg, yn ddilys. ddigon; eithr y ddaear, ag oedd cyn hynny of un iaith ac o un ymadrodd, a glywai ei thrigolion yn awr yn siarad deuddeg iaith a thriugain, canys i gynifer a hynny y mae hen hanesion yn mynegu ddarfod cymysgu y fam-iaith yr Heb. Ac yn y terfysg mawr hwnnw, llawen. iawn a fyddai gan un gyfarfod â'r sawl a fae'n deall en gilydd; a hwy a dramwyent yma ac acw, nes cael un arall, ac felly bob un ac un i ddyfod ynghyd oll, ac aros gyda'u gilydd yn gynifer pentwr ar wahan, y sawl ag oeddent o'r un dafodiaith. A phwy oedd yn siarad Cymraeg, a dybiwch chwi, y pryd hwnnw, ond Gomer, mab hynaf Japheth ab Noa ab Lamech ab Methusela ab Enoch ab Jared ab Malaleel ab. Cainan ab Enos ab Seth ab Adda ab Duw.

Dyma i chwi waedoliaeth ac âch yr hen Gymry, cyfuwch a'r a all un bonedd daearol