Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fyth bosibl i gyrraedd ato, pe baem ni, eu hepil, yn well o hynny. Ac y mae yn ddilys ddiameu gennyf nad yw hyn ond y gwir pur loew; canys 1,—Y mae hanesion yr hen oesoedd yn mynegu hynny; a pha awdurdod chwaneg am unrhyw beth a ddigwyddodd yn y dyddiau gynt na bod coflyflrau neu groniclau yr oesoedd yn tystio hynny? 2. Y mae holl ddysgedigion cred,—gan mwyaf yn awr,—megis o un genau yn myntumio hynny. 3. Y mae yr enw y gelwir ni yn gyffredin arno, sef yw hynny, Cymro, megis lifrai yn dangos i bwy y perthyn gwas, yn hysbysu yn eglur o ba le y daethom allan; canys nid oes ond y dim lleiaf rhwng Cymro a Gomero, fel y gall un dyn, ie, â hanner llygad, ganfod ar yr olwg gyntaf.

Heblaw hyn, yr ydym yn darllen Gen. x. 5, ynghylch epil Japhet,"—O'r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenedloedd;" lle wrth "ynysoedd y cenhedloedd,' y meddylir yn ddiau, Brydain Fawr ac Iwerddon, os nid y rhan fwyaf o ardaloedd Ewrop. Ond am Sem a Cham y dywedir yn unig,—"Dyma feibion Sem a Cham, yn ol eu teuluoedd wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd." Oddiyma, y mae yn hawdd i gasglu, fod cynifer o fam-ieithoedd yn Nhwr Babel a chenedlaethau hyd wyneb yr holl ddaear. O fam-ieithoedd, meddaf, y rhai sydd hen, a rhywiog, a boneddig, nid oes oddieithr deuddeg gwlad o holl ardaloedd Ewrop yn siarad mam-iaith ddilwgr; nid yw y lleill i gyd ond cymysg, megis y Saesoneg, Ffranceg, Hispaeneg, &c.

Ar ol i Gomer a'i gyd-dafodogion ddyfod o Asia i Ewrop, y mae yr hen ysgrifenyddion yn helaeth ragorol yn son am eu gwroldeb a'u medr