Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

godro yn "wartheg blithion," oni ŵyr hefyd, mai blithuin yw godro yn yr iaith honno?

Ond er hyn oll, ni ddeall Cymro un tipyn mo'r Gwyddel yn siarad, na Gwyddel chwaith un Cymro. Y mae amryw achosion am hyn, megis,—1. Yr hir amser maith y maent yn ddwy genedl wahanol, heb ddim cyfeillach neu fasnach deuluaidd rhyngddynt. Y mae amser o fesur cam a cham yn gosod wyneb newydd ar bob peth, ond yn enwedig ar ieithoedd. Nid i son am bobloedd pellenig,—dyna y Cymry, y rhai a aethant i'r rhan honno o deyrnas Ffrainc, a elwir Llydaw, gyda Chonan, Arglwydd Meiriadog, yn y flwyddyn o oedran Crist 383; er mai Cymraeg maent yn siarad hyd y dydd heddyw, eto prin iawn y gall un Cymro o ynys Brydain eu deall hwy yn siarad nes bod ennyd fawr o amser yn eu mysg. 2. Y mae gan y Gwyddelod amryw eiriau priodol, y rhai sydd wedi eu colli gyda ni; megis y mae gyda ninnau amryw eiriau y rhai sydd wedi colli gyda hwy. Ni a welwn gymaint o wahanol eiriau sydd rhwng Gwynedd a Deheudir; ac eto, a feiddia neb ddywedyd mai nid Cymraeg a siaredir er hynny yn y ddwy dalaeth? Ie, ac yn Neheubarth, nid oes odid gwmwd na chantref onid oes rhyw ychydig o wahaniaeth yn yr iaith; nid yn unig wrth fod y werin yn rhoddi amryw sain i'r un geiriau, ond hefyd wrth alw ac enwi llawer o bethau ar wahan. 3. Achos arall,—ie achos mawr ac hynod, yw hyn. Rai cannoedd o flynyddoedd cyn geni Crist, yn amser Gwrgant Farf-drwch, brenin Brydain Fawr, y cododd llu anferthol o bobl yr Hispaen, wedi eu gyrru gan eisieu a newyn allan o'u gwlad, gan hwylio ar hyd y