Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

weilgi, os ar antur y caffent ryw le i breswylio ynddo i dorri chwant bwyd.

Ar ol goddef gryn drallodion ai y môr yn eu taith beryglus, y tiriasant o'r diwedd ym Mhrydain, lle y gwnaethant eu cwyn â llygaid yn llawn o ddagrau, ac â chalon lawn o ufudd—dod, o byddai gwiw gan fawrhydi y brenin ddangos iddynt ryw gwrr gwlad, a chael rhyddid i achub einioes, hwynt-hwy, a'u gwragedd, a'u plant. Dywedasant mai pobl heddychol oeddent, mai y newyn a'u gyrrodd allan o'u gwlad; ac os byddai wiw gan y brenin i'w cymeryd dan ei ymgeledd, nid oedd ganddynt hwy ond gadael bendith Duw am dano, a bod yn ddeiliaid cywir i goron Lloegr. Ar hynny y tosturiodd y brenin wrth eu chwedl, a rhoddes gennad iddynt fyned i'r Iwerddon, oblegid fod y wlad yn eang ddigon, ac yn lled deneu o drigolion y pryd hwnnw.

Dros hir amser y bu y Gwyddelod a hwythau yn cadw yn bobl wahanol; y naill genedl a'r llall yn dilyn ei harferion a'i hiaith ei hun. Ond yno ymhen talm o amser, ymgyfathrachodd y naill bobl â'r bobl arall, sef y Gwyddelod a'r Skuidiaid,—canys felly y gelwid gwŷr dyfod yr Hispaen, ac aethant megis un pobl, fel y gwelwch chwi ddwy haid o wenyn yn taro ynghyd yn yr un cwch. O hynny allan y cymysgwyd yr iaith, a lluniwyd un iaith gymysg o'r ddwy, yr hon a siaradir yn yr Iwerddon hyd y dydd heddyw. O hyn y mae fod llawer o eiriau dieithr wedi eu benthyca oddigan y Skuidiad, yn iaith y Gwyddelod. Lle y maent yn cytuno â nyni, yno dilys yw mai hen Gymraeg ddiledryw yw y geiriau hynny; a lle y maent yn anghytuno, naill ai geiriau Cymreig yw y rheiny, y rhai a