Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lan gyntaf y tiriasant arni, a Gwenddwr y gelwir un o'i hafonydd. Ac heblaw hyn oll, fe gafwyd beddrod Madoc ab Owen yn y wlad honno, a'r ysgrifen a ganlyn ar garreg ei fedd ef,—

Madoc wyf mwydic ei wedd,
Iawn genau Owen Gwynedd;
Ni fynnwn dir! fy awydd oedd
Na da mawr, ond y moroedd.

Ond i ddychwelyd at Brutus. Fel y gwelwch chwi ddwy gangen wedi ymgydio yn tyfu ynghyd, a myned yn un pren,—felly yr ymgymysgodd Brutus a'i wyr yntef â'r hen Gymry, ac a aethant o hynny allan dan enw Brutaniaid, er parchus goffadwriaeth i'r gŵr yr hwn a'u haddysgodd mewn amryw gelfyddydau perthynasol i fywyd dyn. Ac oherwydd mai Groegwr oedd Brutus, fel y dywedais o'r blaen, o'r hyn y mae fod yr hen Frutaniaid yn arferu llythyrennau Groeg yn eu hysgrifeniadau, a hynny, ni a wyddom, ymhell cyn amser Cred, os nid er dyfodiad cyntaf Brutus i'r ynys hon; canys y mae Iwl Caisar yn adrodd am y Derwyddon, eu bod hwy yn dysgu ar dafod-leferydd rifedi afrifed o benhillion a chywyddau; a bod rhai yn treulio ugain o flynyddoedd yn dysgu y penhillion hynny cyn bod yn ddigon o athrawon. Yr oeddid yn cyfrif y penhillion hyn, eb efe, mor santaidd, fel na feiddiai neb eu hysgrifennu ar bapur; ond pob materion ereill, eb efe, y maent yn ysgrifennu â llythyrennau Groeg.

Yn awr y mae yn eglur oddiyma,—1. Fod yr hen Frutaniaid yn medru darllen ac ysgrifennu, cyn dyfod na Rhufeiniwr na Sais i Frydain; canys yr oedd yr awdwr dysgedig, yr hwn sydd