yn rhoddi yr hanes yma i mi, yn byw ynghylch hanner cant o flynyddoedd cyn geni Crist. 2. Mai llythyrennau Groeg oedd ganddynt, sef y cyfryw ag a ddysgodd Brutus iddynt. Yr un llythyrennau a welir heddyw ar fagad o gerrig mewn amryw fannau yng Nghymru.
Heblaw fod yr hen Frutaniaid yn arferyd llythrennau Groeg yn eu hysgrifeniadau, y mae ein hiaith ni hyd y dydd heddyw yn cydnabod amryw, ac amryw eiriau o dyfiant Groeg; sef yw hynny. amryw eiriau y rhai a blannodd Brutus yn ein mysg; yr hen eiriau Cymreig wedi eu colli gennym ni, ond a gedwir eto ymysg y Gwyddelod. Yn awr, visc y gelwai yr hen Gymry ddwfr; y mae y gair wedi ei golli gyda ni, ond a gynhelir o hyd gan y Gwyddelod canys nid yw dwfr ond gair Groeg a gafwyd oddiwrth Brutus. Ac nid i son am ychwaneg, grian y gelwai yr hen Gymry yr haul. Y mae y gair wedi ei golli gyda ni, ond a gynhelir o hyd gan y Gwyddelod; canys nid yw haul ond gair Groeg a gafwyd oddiwrth Brutus.
Yr achos cyntaf a gafwyd i wadu dyfodiad Brutus i'r ynys hon o Frydain oedd hyn. Pan fu farw Jeffrey ap Arthur, arglwydd esgob Llanelwy, y daeth Sais a eilw y Cymry Gwilym Bach, am yr hwn y soniais i o'r blaen, a deisyfu ar Dafydd ab Owen, tywysog Gwynedd, gael bod yn esgob yn ei le o gylch y flwyddyn o oed Crist 1169. Ond gan na fu gwiw gan Dafydd ab Owen ganiatau iddo ei ddymuniad, aeth y gŵr adref yn llawn digofaint, a gosod ei synwyr ar waith i ddirmygu a rhedeg i lawr, nid yn unig goffadwriaeth yr esgob ag oedd yn gorwedd yn ei fedd, ond holl genedl y Cymry hefyd. A'r Gwilym Bach hwnnw, o'i falais o waith gael pall