Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am esgobaeth Llanelwy, oedd y cyntaf a feiddiodd wadu dyfodiad Brutus yma. Nid yw ei holl lyfr ddim amgen agos na sothach o gelwyddau haerllug yn erbyn y Cymry.

Dywed Gwilym Bach yn ddigywilydd, na soniodd neb erioed am ddyfodiad Brutus a'i wŷr o Gaerdroia i'r ynys hon, nes i Jeffrey ap Arthur ddychymygu hynny o'i ben ei hun; ond y mae hyn yn achwyniad rhy noeth a safnrwth heb ddim awdurdod, ac yn erbyn pob awdurdod. Canys ni wnaeth Jeffrey ap Arthur ond cyfieithu y cronicl Cymraeg i'r Lladin, fel y gallai y dysgedig o bob gwlad ei ddarllen. Ac ymhell bell cyn amser Jeffrey, y mae un o benhillion Taliesin yn dangos barn ei gydwladwyr yn ei amser ef; ac efe a ysgrifennodd o gylch blwyddyn yr Arglwydd 556. Ei eiriau ydynt,—

Mi gefais innau yn fy mryd lyfrau,
Holl gelfyddyd gwlad Ewropa;
Och, Dduw, mor druan, drwy ddirfawr gwynfan,
Y daw'r ddarogan i lin Droia.

Sarffes gadwynog, falch anrhugarog,
A'i hesgyll yn arfog o Sermania,
Honno a oresgyn holl Loegr a Phrydyn,
O lan Môr Llychlyn hyd Sabrina.

Yna bydd Brython fel carcharorion,
Ym mraint alltudion o Sacsonia;
Eu Ner a folant, eu hiaith a gadwant,
Eu tir a gollant, ond gwyllt Walia.[1]


  1. Taliesin Ben Beirdd a'i cânt.