Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond pa le y mae ei gymydogion i roddi gair o'i blaid? Prin y gellir coelio neb yn seinio allan ei glod ei hun; ond yn enwedig yma, pan yw ei gydwladwyr, y rhai a ysgrifenasant hanes ei fywyd, yn tystio yn eglur na wnaeth efe ond gosod ychydig fraw ar y trigolion, ond nid dim o'r fath beth a'u meistroli, a dyfod â hwy dan ei lywodraeth. Ac y mae un o brydyddion yr oes honno yn canu am ei weithred ym Mhrydain fel hyn,—

Caisar, er trydar tramor,—a giliodd,
O'r golwg i'r dyfnfor,
Rhag saethau picellau
Por Llu dien Fryden frodor." [1]


Mawr a fu llawenydd a gorfoledd y Brutaniaid wedi gyrru ffo fel hyn ar wŷr mor enwog, y rhai oeddent yn galw eu hunain yn feistri y byd. A Chaswallon y brenin a barodd i'r penrhingyll gyhoeddi diaspad i orchymyn pawb i aberthu i'r tadolion dduwiau. Ac yno fe anfonodd lythyrau at bendefigion, uchel—swyddogion, a gwŷr da y wlad, i'w gwahawdd hwy i Lundain i wledda a bod yn llawen. Ac fe ddywedir i ladd at y wledd fawr honno ugain mil o wartheg, deng mil a deugain o ddefaid, dau can mil o wyddau a chapryned; ac o adar mân, gwylltion a dofion, y dau cymaint ar a allai neb eu cyfrif neu eu traethu. A'r wledd hon a fu un o'r tair gwledd anrhydeddus ynys Brydain.

Ugain mil o fwystfilod,
Yn feirw a lâs pan fu'r wledd."[2]


  1. "Territa quæsitis ostendit terga Britannis.
    —LUCAN. "
  2. Dafydd Nanmor a'i cant.