Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fain; a gwedi dymuno gynt ei angeu, weithian yn dymuno iechyd iddo. Edifar yw gennyf i ddal i'th erbyn di, pan fu'r ymladd rhyngot ti â Chaswallon ein brenin ninnau. Canys pe peidiaswn heb dy ameu, ti a fuasit yn fuddugol. A chymaint o syberwyd a gymerth yntef wedi caffael y fuddugoliaeth honno drwy fy nerth i, ac y mae yntef weithian yn fy nigyfoethi innau, ac felly y mae efe yn talu drwg dros dda i mi. Mi a'i gwneuthum ef yn dreftadawg, ac y mae yntef yn fy nitreftadu innau. A minnau a alwaf dystiolaeth nef a daear hyd na haeddais i ei fâr ef o iawn, ond o herwydd na roddwn fy nai iddo i'w ddihenyddu yn wiriawn. Ac edryched dy ddoethineb di ddefnydd ei lid ef. Cwareu palet a orug dau neuaint i ni, a gorfod o'm nai i ar ei nai ef; ac yno llidio a orug nai y brenin, a chyrchu fy nai i â chleddyf, ond efe a syrthiodd ar ei gleddyf ei hun oni aeth trwyddo. Ac wrth nas rhoddais, y mae efe yn anrheithio fy nghyfoeth innau. Ac wrth hynny yr wyf yn gweddio dy drugaredd, ac yn erchi nerth gennyt i gynnal fy ngyfoeth, hyd pan fo, drwy fy nerth innau, y ceffych di ynys Brydain. Ac nac amheued dy bryder di am yr ymadrodd hwn, canys llawer wedi ffoi unwaith a ymchwelant yn fuddugol."

Ac o ran ei fod efe yn gwybod mai hen gadnaw oedd Iwl Caisar, ac nad oedd ond ofer iddo dybied y rhoesid coel idd ei eiriau heb ryw fechniaeth, y bradwr Afarwy a anfonodd ei fab ynghyda deuddeg ar hugain o farchogion i ddwyn y llythyr at Iwl Caisar, ac hefyd i fod yn wystlon o fod ei amcan ef yn gywir. Bywiogodd hyn galon Caisar, ac nis gallasai un peth yn y byd ddigwydd yn fwy dymunol ganddo; ond eto o herwydd na chafodd efe ond croesaw cyn