Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oddiar gefn yr eleffant, yr hwn sydd fwystfil hagr o faint, ac yn llwyr anghydnabyddus yn y gwledydd hyn. Ac yn wir nid oedd bosibl iddo daro ar well dychymyg; canys ar ol iddo dirio ym Mhrydain, a gosod ei filwyr, o fesur ugain neu ddeg ar hugain, ar gefn bob eleffant,—canys cynifer a hynny a all efe ddwyn yn hawdd, fe darfodd hynay y meirch rhyfel ynghyda'u marchogion, fel y bu anhrefn erchyll drwy holl lu y Brutaniaid; a'u gelynion yn hawdd a gawsant y trecha arnynt.

Cynfelyn, brenin y Brutaniaid, ar hynny, a ymostyngodd i dalu teyrnged i Rufain, sef tasc o aur ac arian bob blwyddyn; ac y mae'r arian a fathwyd y pryd hwnnw heb fyned ar goll eto, a'r ysgrifen hon fyth i'w darllen, "Tasc Cynfelyn." Ac yna, ymhen un diwrnod ar bymtheg, yr aeth Gloyw Caisar i dir ei wlad tuag adref; a choeliwch fi, nid ychydig oedd ei fost yn Rhufain o'i waith yn darostwng y Brutaniaid wrth y fath ystranc ddichellgar; ac er coffadwriaeth o hynny y bathwyd yr arian, a llun Gloyw Caisar ar y naill wyneb, ac eleffant ar y wyneb arall.

Ond nid oedd agos ddegfed ran o'r ynys wedi ymostwng eto i dalu teyrnged i Rufain; dim ond y wlad o gylch Llundain, lle yr oedd Cynfelyn yn teyrnasu; canys pan amcanodd y Rhufeiniaid ehangu eu llywodraeth tua'r gorllewin, safodd gŵr pybyr a nerthol a elwir Caradoc Freich-fras yn eu herbyn; ac yn ol yr hanes y mae'r Rhufeiniaid, er eu bod yn elynion, yn ei adrodd am dano, gŵr oedd hwnnw heb ei fath, nid yn unig am ei fedr a'i galondid mewn rhyfel, ond hefyd am ei syberwyd a'i arafwch; na chwyddo mewn hawddfyd, na