Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llwfrhau mewn adfyd. Efe a ymgyrchodd naw mlynedd â holl gadernid Rhufain, ac a allasai ymdopi naw ereill, oni buasai ei fradychu ef gan lances ysgeler o'i wlad ei hun a elwir Curtis Finddu. Ac yn yr ysbaid hwnnw efe a ymladdodd ddeg brwydr ar hugain â'i elynion; ac, er nid o hyd â chroen cyfan, eto daeth bob amser yn ddihangol o'i fywyd, ac yn llawn anrhydedd. Ei araeth tuag at annog ei filwyr, a gosod calon ynddynt, oedd at yr ystyr hyn,—" Byddwch bybyr a nerthol, O Frutaniaid, yr ydym yn ymladd ym mhlaid yr achos goreu yn y byd; i amddiffyn ein gwlad, a'n heiddo, a'n rhyddid, rhag carnlladron a chwiwgwn. Atgofiwch wroldeb eich teidiau yn gyrru Iwl Caisar ar ffo: Caswallon, Tudur Bengoch, Gronw Gethin, Rhydderch Wynebglawr, a Madoc Benfras."

Ar ol ei fradychu i ddwylo ei elynion, fe'i dygwyd yn rhwym i Rufain, lle bu cymaint o orfoledd a llawenydd, a dawnsio a difyrrwch, o ddal Caradoc yn garcharor, a phe buasid yn gorthrechu gwlad o gewri.

Ni bu dinas Rhufain ond prin erioed lawnach o bobl na'r pryd hwnnw; nid yn unig y cyffredin bobl, ond y pendefigion, yr uchel gadbeniaid, y marchogion, a'r arglwyddi o bell ac agos, oeddent yn cyrchu yn finteioedd i gael golwg ar y gŵr a ymladdodd gyhyd o amser â holl gadernid Rhufain. Ac yno, ar ddiwrnod gosodedig, mewn eisteddfod lawn o holl oreuon Itali, a'r ymherawdwr ei hun yn bresennol, efe â gwyneb diysgog, ac â chalon ddisigl, a wnaeth araeth yn gosod allan helbulon byd, a chyfnewidiadau bywyd dyn mor deimladwy, fel y mennodd hynny gymaint ar bawb, fel prin yr oedd un yn gallu ymatal rhag wylo, a dywedyd,