Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhag eu bod yn anffrwythloni y tir. Yr oedd hyn yn ddiau yn gyd—fwriad cethin ac ysgeler; ond dyna oedd eu barn hwy y pryd hwnnw.

Yn y cyfamser yr oedd holl lu y Rhufeiniaid gan mwyaf, sef eu holl ryfelwyr a'u gwŷr arfog, wedi myned i oresgyn ynys Môn. Nid oedd yr ynys honno y pryd hwnnw ond trigfa o wŷr crefyddol, a elwid y Druidion, y rhai, megis cenhedloedd ereill, oeddent yn anad un lle arall yn dewis rhodfeydd tywyll dan dderi caeadfrig i aberthu a galw ar y duwiau, megis yr oedd ynys Môn y pryd hwnnw yn llawn o ianneirch a llwyni pendewon; a hyn yw meddwl y bardd—

"Nos da i'r ynys dywell,
Ni wn oes un ynys well." [1]

Nid oedd gwŷr Môn, fel y dywedais, yn rhyfelwyr mawr y pryd hwnnw, ond cymanfa o wyr crefyddol, a hwy a dybiasant y danghosai y Rhufeiniaid barch iddynt ar y cyfrif hwnnw. Y Druidion, heb ddim arfau rhyfel, a gadwent y blaen gwedi eu gwisgo mewn gynau symudliw, capan côr taleithiog am eu pennau, a ffyn hirion purwyn yn eu dwylo; a'r gwyryfon yn dwyn lampau cwyr wedi ennyn, yn dawnsio draw ac yma drwy eu canol, yn edrych yn anferthol ac yn syn o hirbell. Fe wnaeth yr olwg o hyn yn wir ryw ychydig fraw ar y cyntaf yn llu y Rhufeiniaid, ond ar ol ergydio cawod o saethau tuag atynt, buan iawn y gwasgarwyd hwy, a'r gelynion a wnaethant laddfa echrydus yn eu mysg. Y lle y tiriodd y Rhufeinwyr ym Môn a elwir hyd heddyw Maes-hir-gâd; a'r ymladdfa uchod

  1. Llywelyn Goch ap Meuryg.