Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mod i yn olynol o waed brenhinol, eto nid yw edifar gennyf, er nad wyf ond benyw, i gyd-filwrio a chwi dros yr achos cyffredin, sef i amddiffyn ein gwlad, ein hawl, a'n heiddo rhag trais anrheithwyr ysgymun, y Rhufeiniaid ysgeler acw. Dialed Duw arnynt am y cam a'r sarhad a wnaethant hwy, ni ddywedaf i myfi fy hun a'm teulu yn unig, ond i holl genedl y Brutaniaid. Am danaf fy hun y dywedaf, ni fyddaf i fyth yn gaethwraig dan eu llywodraeth, dewised y sawl a fynno; ac od oes ynnoch galonnau gwŷr, ymddygwch fel gwŷr yn awr; mi a wnaethum, ac a wnaf, fy rhan i."

Ac ar hynny ergydio a wnaethant eu saethau cyn amled a chawod o genllusg at y gelynion; ac mor hyderus oeddent i ennill y maes, a hwy y fath lu mawr anferthol o bob rhyw ac oedran, yn gymaint a bod miloedd a miloedd yn gynifer pentwr yma ac acw ar bennau'r bencydd, ac ereill mewn menni a cherbydau wedi dyfod ynghyd yn unig i weled dyfetha'r Rhufeiniaid. Mor fyrbwyll a nawswyllt oeddent!

Y Rhufeiniaid, hwy a dderbyniasant y gafod gyntaf o saethau yn ddigyffro, heb fyned allan o'u rhestr. Ond ar ol i'r Brutaniaid oeri ychydig o'u brwd ymgyrch, cydio a wnaethant eu tariannau ynghyd i ymachub rhag y saethau, a rhuthro arnynt i ymladd law—law â'u cleddyfau llym daufiniog. Nid oedd y Brutaniaid hwy yn gydnabyddus â'r fath ymgyrch a hwn law—law frig—frig, ac nid oedd ganddynt hwy ond cleddyfau unfiniog, â blaen pwl, a'i blyg tuag i fyny. Ac o achos hyn o anfantais, ond yn anad dim o herwydd eu bod blith-dra-phlith heb eu byddino yn drefnus, hwy a fathrwyd gan y gelynion, megis cringoed yn cwympo mewn