Ar hyn, wele bencadben y Rhufeiniaid, a eilw'r Cymry Sywedw Paulin, ynghyda'i wŷr arfog, yn dychwelyd o Fôn. Ac er eu dyfod, erioed ni bu eu calon, un ac arall gyda'u gilydd, mor farwaidd a diddim a'r pryd hwn. Canys prin y gallasent ddal eu harfau yn eu dwylo; y fath oedd eu dychryn. Gweled celaneddau meirw eu cydwladwyr yn gorwedd yma ac acw cyn dewed ar wyneb y meusydd a hen ddefaid yn trigo o'r pwd mewn gauaf dyfrllyd; gweled eu dinasoedd a'u caerau yn mygu dros wyneb yr holl wlad; ac yn anad dim, gweled y Brutaniaid â llu cadarn ganddynt, o leiaf bedwar cymaint a'u llu hwy,—ar air, ni fu dim rhyngddynt a diffodd, yn barod, canys toddodd calonnau y bobl wrth weled y fath ddistryw, ac aethant fel dwfr, a dilys yw na tharawsent ergyd oni buasai fod eu pencadben yn ŵr call a glew hefyd. Canys ar ei waith ef yn eu gweled yn delwi ac yn ymollwng, efe â gwyneb siriol a'u galwodd ynghyd, ac yna efe a areithiodd yn y wedd hon,—"Ha wŷr,' "eb efe, ai digalonni a wnewch rhag dadwrdd a bloeddiau y barbariaid acw? Beth yw eu llu gan mwyaf ond mynywetach ffol, y rhai a fuasai yn well syberwyd iddynt aros gartref wrth eu rhôd a'u cribau? Ac am eu gwrywaid, beth ynt ond cynifer lleban difedr i drin arfau rhyfel? Ymwrolwch, gan hynny, chwi Rufeiniaid, dychryn gwledydd, a byddwch nerthol y waith hon, a chwi a welwch y barbariaid hyn yn gelaneddau meirwon dan eich traed yn ebrwydd."
Ac ar hynny, Buddug, gwraig Brasydoc, cadbenwraig llu y Brutaniaid, canys benyw oedd ben y gâd y tro hwn, a areithiodd, gan ddywedyd," Adnabyddwch, O Frutaniaid, er fy