Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyn, y Brutaniaid, hwy a ddewisent golli can bywyd, pe bai hynny bosibl, cyn ymostwng i fod yn gaethweision. Ac i ddywedyd y gwir goleu, yr oedd y Rhufeiniaid wedi dygn flino, ac yn edifar ganddynt, ddarfod iddynt droedio tir Prydain erioed, gan mor beryglus ac anesmwyth oedd eu bywyd. Ac yna, wrth adnabod natur a thymer y trigolion yn well, eu bod yn ddynion nad ellid fyth eu llusgo drwy foddion hagr, y cynnyg nesaf a wnaethant oedd eu harwain i gaethiwed drwy ddywedyd yn deg, a'u colwyno drwy weniaith, danteithion, a moethau da: megis heliwr yn elio abwyd i ddal cadnaw mewn magl, yr hwn a fu drech na'i holl filgwn. A choeliwch fi, mai dyfais enbyd a dichellgar oedd hon o eiddo'r Rhufeiniaid. Canys y pendefigion yno a ddechreuasant adeiladu tai gwychion, gwisgo dillad o lawnt a sidan, cadw gwleddoedd, a dilyn pob difyrrwch a maswedd. Dysgasant hefyd yr iaith Ladin, a phrin y cydnabyddid neb yn ŵr bonheddig ond yr hwn a fedrai siarad Lladin. Nid oedd hyn ddim oll ond gwisgo lifrau gweision, er hardded y tybid hynny gan y werin anghall.

Ond eto, er y cawsai y Rhufeiniaid yn ddiamau eu gwynfyd pe buasai pawb o'r deyrnas yn dirywio i'r fath fywyd masweddol, eto yr oedd rhai â golwg sur yn edrych ar y fath feddalwch llygredig. Ac ymysg ereill gŵr a elwid Gwrgan Farfdrwch a areithiodd yn y wedd hon,—"Chwi ddyledogion a goreugwyr y wlad, rhoddwch glust i ddychymyg. Y llew ar fore teg o haf a ganfu afr yn porfau ar ben craig uchel yn Arfon. O fy nghares,' ebe efe, beth a wnewch chwi yn dihoeni ar dusw o wellt mor arw ag sydd yna rhwng y creigydd? Paham,