Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fy anwylyd, na ddeuwch i waered yma i'r dyffryn i bigo meillion a blodau gwinwydd?' Diolch i chwi, meistr,' ebe'r afr, am eich cynnyg da; ond ar hyn o dro, mi a ddewisaf i aros lle yr ydwyf.' Gwybyddwch chwithau, O bendefigion, nad yw teganau y mae y Rhufeiniaid yn eich harddu â hwynt, ddim amgen na'r meillion y mae'r llew gwancus yn gwahawdd yr afr atynt. Hyhi yn y ddameg a atebodd yn gall; mynnwn petai chwithau yn adnabod nad yw y coeg—bethau ffiloreg, yr ydych yn ymdecâu á hwynt, ddim amgen na gwenwyn wedi elio drosto â mêl. Hon ydyw'r ymgais olaf, a'r enbytaf hefyd, o eiddo'r Rhufeiniaid i'ch dwyn i gaethiwed a dywedaf yn hy wrthych, y fath fywyd masweddol a'ch dug yn ddilys i ddistryw, oddieithr i chwi adnabod eich hunain mewn pryd, megis y gwnaeth yr afr yn y ddameg.

Ond dilyn eu rhodres a fynnent hwy, ac ni chafodd Gwrgan Farfdrwch ond chwerthin am ei ben, am ei ewyllys da i'w hachub rhag myned bendramwnwgl i gaethiwed. Ac o hynny allan dros amryw flynyddoedd, y boneddigion a ymroisant i ddifyrrwch a moethau; y gwŷr ieuainc yn dwyn arfau, a gipiwyd ymaith i wledydd pellenig; a'r cyffredin bobl hwythau a osodwyd ar waith i ddiysbyddu llynnoedd, gwneuthur sarnau newyddion ar draws y wlad; neu wneuthur priddfeini i adeiladu tai gwychion idd eu meistriaid y Rhufeiniaid. O gylch deugain mlynedd y buont yn lled dangnefeddus, heb ddim terfysg nac ymyrraeth, ond yn talu teyrnged yn lled ddiddig. Ond o gylch y flwyddyn 124, pan oedd gŵr a elwid Sefer yn rheoli yma dan yr ymherawdwr Adrian, cyd-fwriadu a wnaethant dros yr holl deyrnas i ysgwyd ymaith