Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

awdurdod y Rhufeiniaid, ac i gleimio eu rhyddid a'u braint unwaith eto. Eu dirmyg ar fonheddig a gwreng a gyffrôdd y trigolion i fwrw ymaith iau eu caethiwed. A dywedir, oni buasai fod Adrian yr ymherawdwr a'i holl lu gerllaw, a hwylio trosodd yn ebrwydd yn gynorthwy cyfamserol, y torasid y Rhufeiniaid ar hyn o bryd ymaith yn gyfangwbl; ac eto, hi a fu gyfyng iawn arnynt, er mai hwynt-hwy, digon gwir, a gawsant y trecha yn y diwedd.

Ac ar hyn o bryd, wele ddychymyg arall ac ystryw o eiddo'r Rhufeiniaid i gadw tan law yr hen drigolion. Canys gwnaethant glawdd mawr o dyweirch a pholion bedwar ugain milltir o hyd, ar draws yr ynys o fôr i fôr, sef o Aber Cwnrig y naill ran o'r ynys tua'r dwyrain, hyd yn Ystrad Clwyd tua'r gorllewin, sef yn agos i gydiad Lloegr ac Is-coed Celyddon, neu Scotland, lle mae'r ynys yn gulaf drosti. Pwy bynnag ni roddai ufudddod i lywodraeth y Rhufeiniaid a yrrid allan o gyffiniau Lloegr y tu arall i'r clawdd; a milwyr yn gynifer pentwr yma ac acw ar bwys y clawdd yn gwylied' i gadw pawb allan o'r tu draw.

Dros dalm ar ol hyn y bu amser lled heddychol, megis heddwch rhwng boneddigion, oddieithr ambell wth a bonclust yn awr a phryd arall yma ac acw. Ond megis wrth gronni afon redegog, hi a erys ond odid yn llonydd ac yn dawel dros encyd; eto pan ddel llifeiriant, hi a ffrydia yn rhaiadr gwyllt dros yr ystanc, ac a dreigla ac a chwilfriwia pa beth bynnag a saif ar ei ffordd; felly y Brutaniaid hwythau, er eu bod dros amser yn lled esmwyth, eto wrth weled eu trin mor hagr, ac fel estroniaid yn eu gwlad eu hun, a gymerasant galon o newydd eto, er