Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

byd Cristnogol, a'r ymherawdwr cyntaf a fedyddiwyd i ffydd Iesu Grist.

Elen oedd Gristnoges wresog yn y ffydd, a chymaint yn rhagori ar ereill yn ei dyledswydd at Dduw a dyn ag oedd hi mewn anrhydedd a goruchafieth fydol. Hi aeth i Gaersalem i weled y lle y dioddefodd Crist Iesu dros bechod y byd, yn ol yr hyn a ddywed yr angel wrth y gwragedd,—"Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd. Ac yno, drwy fawr ludded ac anhawsdra, hi a gadd y groes y dioddefodd Crist; canys y paganiaid a daflasent yno grug aruthrol o gerrig, o'u casineb i'r Cristnogion, ac yn y gwaelod y cafwyd tair croes; ond oblegid fod yr astell yn cynnwys y scrifen wedi torri, ac yn gorwedd o'r neilldu, croes Crist, medd yr hen hanesion, a adnabuwyd wrth fod rhinwedd ynddi i iachau clefydon. Am ba weithred y mae un o'n beirdd ni yn canu, ac yn ei galw hi Diboen,—

"Diboen, ferch Coel Codebog,
I gred a gafas y grog.'

Hi a fu farw yn llawn o ddyddiau yn bedwar ugain oed, ac a gladdwyd yng Nghaer Cystenyn. Ond Custeint yr ymherawdwr a fu farw ymhell o'i blaen hi, sef yn y flwyddyn 313, ac a gladdwyd yng Nghaerefrog, yn Lloegr. Dywedir i gael yn ei feddrod ef, yn amser Iorwerth y Chweched, lamp a gyneuodd yno yn wastadol er yr amser y claddwyd hyd y pryd hwnnw; sef dros ychwaneg na deuddeg cant o flynyddoedd. Cafwyd yr un fath lamp ym meddrod Tullia, merch Cicero yr areithydd, yr hon a gyneuodd ynghylch 1550 o flynyddoedd;