Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond a ddiffoddodd yn y man cyn gynted ag y daeth goleu dydd i mewn. Dychymyg odiaeth ryfeddol oedd hon o eiddo'r hen bobl i wneuthur lamp fel hyn i gynneu yn wastadol yn y tywyllwch. Tybia rhai mai aur wedi ei gyf newid i rith arian byw oedd yn pesgi'r lamp; ond pa fodd bynnag yw hynny, mae'r gelfyddyd wedi ei cholli yn awr.

Er cyn gynted ag y clybu Cystenyn Fawr yn Rhufain fod ei dad yn glaf, er meithed oedd y ffordd, eto prin y rhoddodd efe hûn i'w amrantau nes ei ddyfod i dir Prydain; ond yno yr hen ŵr oedd ar dranc marwolaeth.

Yr oedd y pryd hwnnw derfysg a gwrthryfel yn yr Eidal, am baham nid allodd Cystenyn aros ond ychydig amser ym Mhrydain ar ol claddu ei dad; ond cyn ymadael efe a drefnodd bob peth yma er cadw llonyddwch yn y deyrnas. Eiddaf ei gefnder a wnaeth efe yn ben ar Loegr gan mwyaf oll; Cenau ap Coel, ei ewythr, frawd ei fam, a apwyntiodd efe yn rhaglaw i lywodraethu Cernyw; Cunedda Wledig, ei gefnder, sef mab Gwawl, ei fodryb, chwaer ei fam, a osododd efe yn dywysog rheolwr Cymru; ac Einion Urdd, câr arall iddo, a sefydlodd efe a llawn awdurdod yn y gogledd tua chydiad Lloegr a Scotland. Ac ar hynny efe a ymadawodd, a chododd llu mawr o Frydain gydag ef i ymladd yn erbyn y rhai oeddent yn ymgeisio am y goron; eithr ar ol darostwng y gelynion, ni ddychwelodd ychydig o'r rhai hynny adref, eithr arhosodd rhai yn Rhufain, ac ereill a arosasant yn y rhan honno o Ffrainc a elwir Llydaw, a hon oedd y waith gyntaf i'r Brutaniaid fyned i breswylio yn Llydaw, sef yn y flwyddyn 313.