Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nghanol ei rodres, efe a laddwyd drwy frad a chynllwyn, a'i wŷr a wasgarwyd, ond y rhan fwyaf a arosasant gyda'u cydwladwyr yn Llydaw; a hon oedd y drydedd waith i'r Brutaniaid adael llwyth o'u pobl yno, sef o gylch y flwyddyn 409.

Parodd y fath afreolaeth a hyn, a hynny yn ddibaid dros amryw flynyddau, i holl ymherodraeth Rhufain siglo ac ymollwng, megis Ilong fawr yn ymddatod pan fyddo'r tonnau a gwynt gwrthwynebus yn ei chipio; neu megis maes llydan o wenith yn cael ei sathru a'i rwygo gan genfaint o foch, oni bydd cae diogel o'i gylch. Felly Rhufain a'i holl gadernid a aeth, o fesur ychydig ac ychydig, yn chwilfriw mân, o ran yr aml ymbleidiau o'i mewn, ac ymgyrch y barbariaid o amgylch. Ac megis na all neuadd fawr eang o amryw ystafelloedd amgen nag adfeilio, pan y byddo deiliaid gwan yn byw ynddi, felly yr un modd, pan oedd y milwyr mor afreolus, ac yn newid eu meistr mor fynych, hynny yw, yn gosod y sawl a welent hwy fod yn dda fod yn ymherawdwr, ac ar yr ymryson lleiaf yn ei ddiswyddo eilwaith, nid rhyfedd na allai un penrheolwr yn y fath achos gadw cynifer o wledydd mewn ufudddod. Hyn a barodd i'r ymherawdwr Honorius, o gylch y flwyddyn 410, ymwrthod â'r deyrnas hon, a danfon am ei fyddinoedd adref i'r Eidal, lle'r oedd mwy rhaid wrthynt. Dyma ddechreuad yr aur a'r arian yr ydys yn eu cloddio o'r ddaear mewn amryw fannau; canys ar waith yr ymherawdwr yn galw am danynt adref ar frys, y Rhufeiniaid a guddiasant eu trysorau mewn tyllau ac ogofeydd yn y ddaear, gan obeithio y caent hwy