Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedfa i'w meddiannu ryw bryd arall, ond hynny ni chawsant byth.

Yr oedd Prydain Fawr, ar hyn o bryd, wedi ei harllwys yn gwbl o'i gwyr arfog, a hynny a barodd i'r gwibiaid treigl hynny, y Ffictiaid, fod mor llwyddiannus yn eu lledrad a'u gwaith yn anrheithio'r wlad hon wedi hynny; ond eto arhosodd yma filoedd o bobl Rhufain, y rhai oeddent wedi ymgyfathrachu â'r hen drigolion, ac felly wedi myned yn un genedl. Erbyn hyn mae'n amlwg ein bod ni, gweddillion yr hen Frutaniaid, yn bobl gymysg o Wyddelod, Groegiaid, a Rhufeiniaid.