Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn cyffro mewn perth. Felly y Brithwyr hwythau, y rhai ebe Gildas, oeddynt ddynion blewog, cethin ac ofnadwy, a go debyg i Nebuchadnezar ar ol ei droi ar lun anifail,—oeddent genhedlaeth anrhugarog a chreulon, digrifwch y rhai oedd lladd a difetha, megis y teimlodd y Brutaniaid y waith hon ac amryw brydiau ereill hyd adref; a'r rhai a ddiangasant i ogfeydd a'r anialwch oeddent o hyd yn eu hofn, rhag i'r Brithwyr ddyfod am eu pennau, a'u taro, bob mab gwraig, yn ei dalcen, yn ddisymwth. Nid oes dim crybwyll fod y Ffrancod a'r Saeson y waith hon gyda'u hen gyfeillion; mae'n debygol mai arnynt hwy y disgynnodd dyrnod y Rhufeiniaid drymaf, gan eu bod hwy yn cadw tua'r dwyrain, y lle y tiriasant gyntaf, o gylch Kent a glan Tafwysc.

Y fath oedd llaithder a meddalwch y Brutaniaid o hyd fel y goddefasant eu herlid i dyllau, a newynu, yn hytrach na chymeryd calon ac ymwroli. Ond ar hynny y penaethiaid a ymgyfarfuont, ac er dewis chwedl neb, nid oedd dim i wneuthur ond danfon cenadwri eto at eu hen feistriaid i Rufain i ddeisyf cymorth, a chynnyg y wlad dan eu llywodraeth; sef oedd enwau y gwŷr a anfonwyd, Peryf ap Cadifor, a Gronw Ddu ap Einion Lygliw. Prin iawn yn wir y gallasent ddisgwyl cael eu neges y tro hwn yn anad un pryd arall, gan fod y Rhufeiniaid a'u dwylaw yn llawn gartref, a'r ffordd yn faith i ynys Brydain; eto, trwy fawr ymbil, tycio a wnaethant, a chawsant leng o wŷr arfog i fyned gyda hwy drachefn i dir eu gwlad. A chwedi cael y fath gefn, y Brutaniaid yno a ymchwelasant ar eu gelynion, a thrwy borth y Rhufeiniaid, a wnaethant laddfa gethin yn eu mysg;