ond Dyfodoc, pen y gâd, a ddiangodd, ynghyda dwy fil a phum cant o wŷr gydag ef i'r Iwerddon. O gylch y flwyddyn o oedran Crist 420 y bu hyn.
Y mae'n ddilys fod y Brutaniaid ar hyn o amser yn weinion eu gwala, pan y gallasai un lleng fod er cymaint o wasanaeth iddynt; a'r achosion o hynny ynt,—1. Am fod y Rhufeiniaid, o amser bwygilydd tra fuont yn rheoli yma, yn arllwys y deyrnas o'i gwŷr ieuanc, ac yn eu cipio y tu draw i'r môr i ymladd trostynt mewn gwledydd pellenig. 2. Am i'r rhan fwyaf o'r ieuenctid a gwŷr arfog, y rhai a adawyd yn y wlad, fyned ar ol Macsen Wledig i Ffrainc a'r Eidal, y rhai ni ddychwelasant fyth i Frydain; megis yr aeth llu mawr hefyd gyda Chystenyn, gan fwriadu ei wneuthur yntef yn ymherawdwr, fel y darllenasoch eisus. 3. Am fod y ieuenctid ag oedd y pryd hwn ym Mhrydain heb eu haddysgu i ryfela, ac ni wna gŵr dewr heb fedr ond milwr trwsgl. Dyma paham yr oedd y Brutaniaid mor llesg ar hyn o bryd, y rhai, oddieithr hynny, oeddent mor fedrus i drin arfau rhyfel, ac hefyd mor galonnog ag ond odid A hynod un genedl arall dan wyneb yr haul. yw'r enw y mae Harri'r Ail, brenin Lloegr, yn adrodd am danynt mewn llythyr a ddanfonodd efe at Emanuel, ymherawdwr Caercystenyn. "Y mae," ebe fe, o fewn cwr o ynys Brydain, bobl a elwir y Cymry, y rhai sy mor galonnog i amddiffyn eu hawl a braint eu gwlad, megis ag y beiddient yn hyderus ddigon, ymladd law-law, heb ddim ond y dwrn moel, a gwŷr arfog a Ond i ddygwaewffon, a tharian, a chleddyf." Ond i ddychwelyd.