Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Brutaniaid gan mwyaf yn Gristnogion, eto, gan mwyaf Cristnogion drwgfucheddol oeddent. Tra fu Garmon a Lupus gyda hwy yr oeddent yn ddynion crefyddol, neu o'r hyn lleiaf yn ymddangos felly; ond ar ol ymadawiad y ddau ŵr duwiol, yno y llaesodd eu sel at grefydd, ac a ddechreuasant gellwair a chrechwenu, ac o fesur cam a cham i ymroddi i bob ofergamp a maswedd, nes llwyr anghofio eu gorthrymderau gynt. Ac ymhen talm o amser, syrthiasant, frodor a pheriglor, bonheddig a gwreng, i bob math o ysgelerder a drygioni, cyfeddach a meddwdod, godineb ac aniweirdeb, cybydddod ac ocreth, cenfigen a chasineb, gyda phob diystyrrwch ac amharch ar orchymynion Duw ag a ydyw natur lygredig dyn yn dueddol iddynt. Peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir." Felly nid yw ryfedd i farnedigaethau'r Goruchaf, sef rhyfel, haint a newyn, ymweled â hwy. "Oni ymwelaf am y peth hyn, medd yr Arglwydd, oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl a hon?" Wele y Brithwyr ynghyda'r Gwyddelod, yn llu cethin arfog, yn tirio eto, yn lladd ac yn llosgi mor ddidrugaredd a chynifer cethern o waelod uffern. A chan ystyried gyhyd o amser y buont yn gormeilio o'r naill gwr i'r llall dros wyneb y deyrnas, prin y gall synwyr dyn amgyffred, na thafod dewin fynegi, pa gyflafan ac anrhaith a dinistr a wnaethant; canys hwy a fuont yspaid deng mlynedd yn gwanu y trigolion meddal, heb arbed na phlentyn sugno, gwraig, nac henafgwr; ond y rhan fwyaf a ymadawsant â'u dinasoedd a'u tai annedd, a myned ar encil i'r diffeithwch, a hynny yn gystal i geisio nawdd a diogelwch y creigydd, ac i gael rhyw ymborth, er ei saled, i dorri cythlwng a