Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwant bwyd. Ac yn yr anialwch nid oedd dim i'w gael ond ambell fwystfil ac aderyn, gwraidd coed a grawn surion yn eu hamser. Ond nid oedd ar hyn o bryd ddim gwell amheuthyn gan y rhan fwyaf o'r Brutaniaid. Dyma a ddaw o ymddigrifwch mewn pechod, ac ymwrthod â Duw a'i sanctaidd gyfreithiau.

Pechod yw gwaelod galar—echrydus
Ac ochain a charchar;
Cafod o boen, gofid, bâr
Dial Duw, diluw daear.

Hir adwyth, a mwyth, a maithder—o ddig,
Ddaw o ysgelerder;
Gwna gaerau 'n garnedd gwer,
A bro naid oll yn brinder.

Ond o'r diwedd, wedi goddef hir gystudd, gorthrymder, newyn, ac oerfel, eu cyngor oedd i anfon un genadwri eto at eu hen feistriaid, y Rhufeiniaid, i edrych os ar antur a drugarhaid wrthynt. Ac ar hynny, o gylch y flwyddyn 446 ysgrifennwyd llythyr gydag Ednyfed ap Gwalchmai, at Esius, y rhaglaw dan yr ymherawdwr yn Ffrainc, yn y geiriau galarus hyn,—

"Griddfan y Brutaniaid at Esius, y tair-gwaith uchelfaer. Y barbariaid a'n gwthiant i'r môr, a'r môr yn ein gyrru'n ol at y barbariaid; a rhwng y naill a'r llall nid oes dim cyfrwng ond naill a chael ein lladd neu foddi."

Nid yw hyn ond darn o'r llythyr, ond hyn yw'r cwbl sydd gennym ni wedi ei gadw; ac oddiwrth yr ychydig yma y mae yn hawdd i farnu ymha gyflwr tosturus a gresynol yr oedd y Brutaniaid ynddo ar hyn o bryd; ond er hynny