Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

edig wedi curio gan yr oerfel a newyn, eto cawsant eu nerthu gan Dduw, fel nad allodd câd y Brithwyr, er lluosoced oedd, eu gwrthsefyll. Sathrwyd eu byddinoedd, megis pan fo dyn yn ysgythru mân—goed â bilwg, ac er iddynt gael aml borth o wyi ac arfau allan o'r Iwerddon, eto ni thyciodd iddynt ennill un maes, canys y Brutaniaid oedd a'u hyder yn yr Arglwydd Dduw; ac ar hynny, Cilamwri Mac Dermot O'Hanlon, ac Huw Mac Brian, ac Efer Mac Mahon, pen—capteniaid y Brithwyr a'r Gwyddelod, a ffoesant, hwynt—hwy a'u gŵyr, yn archolledig, y tu draw i Wal Sefer, i fynydddir Iscoed Celyddon, ac ereill dros y môr i'r Iwerddon. Hwyr y tygasai neb y y buasai y cyfryw ddynion yn gollwng Duw mor ebrwydd yn anghof. Fe debygai dyn y buasent yn ofni Duw gyda gwylder a pharchedig ofn, gan ystyried eu bod yn gweled, pe gosodasent hynny at eu calonnau, y fath arwyddion mawr ac hynod; canys hwy a welsont y dialeddau trymion, y distryw, y newyn, y difrod ag oedd o hyd yn eu cyd—ganlyn tra'r oeddent yn ddihareb ymysg eu cymydogion am eu dirasrwydd a'u meddalwch. Gwelsont hefyd y bendithion haelionus, y diddanwch, y breswylfod ddiogel a gawsant tra'r oeddent yn Gristnogion da, ac yn gwneyd cydwybod o'u dyledswydd at Dduw a dyn; ond er hyn i gyd, dynion drwg anufudd a gwrthryfelgar oeddent. Wedi iddynt yrru ymaith y gelynion, a byw yn llonydd yn eu gwlad, hwy a ymosodasant i lafurio'r ddaear, a chawsant y fath gnwd o yd, a'r fath amlder o ffrwythau y flwyddyn hon, fel na welwyd erioed y cyffelyb. Ond ymhen dwy flynedd neu dair (amser byr!) ar ol iddynt gael preswylfa ddiogel yn eu caerydd a'u