Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cestyll, ac hefyd eu llenwi o bob danteithion, amheuthun fwydydd, ac ail seigiau, hwy a aethant yn hyfach, pe buasai bosibl, i bechu yn erbyn Duw nag y buont erioed. Jesurum a aeth yn fras ac a wingodd." Eneiniwyd brenhinoedd, nid y cyfryw a wnaent gydwybod i rodio gyda Duw, ond y sawl oeddent greulonach a melldigedicach nag ereill; a chyn pen ychydig hwy a leddid gan y sawl a'u heneiniodd, nid o achos y gwirionedd, a dewisid rhai creulonach eto yn eu lle. Os byddai rhyw neb un yn chwennych byw yn brydferth a llonydd, ac yn symud ei droed oddiwrth ddrygioni, hwnnw a gasheid gan bawb, a phrin y gellid amharchu digon arno; ond po fwyaf ysgeler, diriaid, a di—ras a fyddai neb, mwya gyd fyddai parch ac anrhydedd hwnnw. Ac nid y gŵyr llyg yn unig oeddent fel hyn yn ymhyfrydu mewn camwedd ac yn casau y wybodaeth o Dduw; eithr y gŵyr llen hefyd, neu'r offeiriaid, a ymadawsant â llwybrau uniondeb i rodio mewn ffyrdd tywyllwch." Canys, yn lle gofalu dros eu diadellau, eu teml hwy a fyddai cegin tafarnau, a chanu maswedd. Am baham y canodd un o'i prydyddion, gan edliw iddynt,—

Y 'ffeiriaid oe'nt euraid cyn oeri—crefydd,
Cryf oeddent mewn gweddi;
Yn awr meddwdod sy'n codi,
'Nifeiliaid yw'n bugeiliaid ni.

Ar fyr eiriau, ni lysodd un gradd, na bonheddig na gwreng, na gŵyr llen na gwyr lleyg, a dim ysgelerder, a direidi, ac anuwioldeb ag ydyw natur lygredig dyn yn dueddol iddo. "I'r bobl hyn yr oedd calon wrthnysig ac an-