Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ufuddgar, hwynt-hwy a giliasant ac a aethant ymaith. Yng nghanol y gloddest a'r aniweirdeb yma, dyma newydd disymwth yn ymdaenu dros y wlad, fod y Brithwyr a'r Gwyddelod wedi tirio. Fe weithiodd hynny yn wir ryw gymaint o fraw ynddynt, ac a wnaeth i'w calonnau ysboncio ychydig, megis y gwelwch chwi ddyn yn cilio yn drachwyllt wrth ganfod neidr yn ddiswta yn gwanu ei chonyn, ac yn llamsach mewn perth; ond hynny o fraw a â yn ebrwydd heibio. Felly yr un modd, y Brutaniaid hwythau, wedi cael hysbysrwydd nad oedd y cwbl ond larwm a chwedl gwlad, a aethant yn ebrwydd ar ol eu hen arferion, yn bendifaddeu i ymlenwi ac ymbleidio.

Ac ar hynny, gan na chymerent addysg, yr Arglwydd a anfonodd bla angeuol yn eu mysg a elwid Brad-Cyfarfod, yr hwn a ysgubodd ymaith y fath liaws anfeidrol o bob gradd ac oedran, fel prin y gallodd y byw gladdu'r meirw. "Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, yna y gwna'r Arglwydd dy blâu di yn rhyfedd, fel plâu mawrion a pharhaus, a A chyn pen chlefydau drwg a pharhaus. nemawr o amser ar ol hyn, sef ar ol i'r pla laesu ychydig, wele y Brithwyr wedi dyfod yn ddiau ddigon; a rhwng y difrod a wnaeth y pla, a'r gelynion yn llosgi eu trefydd ac yn rhuthro arnynt, a hwy yn weinion ac yn gleifion, y mae'n hawdd i neb farnu pa mor resynol oedd eu cyflyrau. A hynny a wnaeth iddynt alw am y Saeson, y rhai a fuont yn waeth eto nag un pla na Brithwr.