Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amcan yn hyn o ymddiddan yw ceisio achub rhag myned i dir anghof ryw ychydig o hanesion yr amseroedd a 'aethant heibio, gadawaf i'r oes nesaf goffáu am llwyddiant a defnyddioldeb y gŵr da hwnw.

YMOF. A ddygwyddodd dim neillduol o arwyddion gwir grefydd mewn un cwr arall o'r wlad, heblaw y manau a soniasoch?

SYL. Yr oedd gwr yn mhlwyf Llanllechid, yn agos i Fangor, yn berchen ar le a elwir Palas Ofa. Dygwyd ef i fyny yn weinidog o eglwys Loegr, a chafodd ei osod yn esgob Kilkenny yn yr Iwerddon. Gorfu iddo ffoi oddiyno yn amser y brenin Charles y cyntaf, mae'n debyg, pan y lladdwyd dau can' mil o Brotestaniaid yn yr Iwerddon. Daeth cenad ar ei ol i chwilio am dano i Balas Ofa: cyfarfu hwnw âg ef mewn hen ddillad gwael, gerllaw y tŷ, a chryman drain ar ei fraich. Gofynodd iddo a welsai ef yr esgob? Dywedodd yntau wrtho, Yr oedd efe yma yn bur ddiweddar. Felly fe aeth hwnw ymaith heb gael ei ysglyfaeth. Dygwyddodd, tra bu ef yn ymguddio yn ei hen gartref, fod yno wylnos, ac yntau yn llechu yn y llofft. Cafodd ryw foddlonrwydd yn ngwaith y clochydd yn darllen yn yr wylnos. Pan gafodd gyfleustra, gyrodd am dano; ac wedi ymddiddan llawer ag ef, a chael lle i farnu ei fod yn ddyn duwiol, anogodd ef i ddyfod ato ef i Kilkenny, i gael ei urddo yn gurad yn Llanllechid. Ac wedi i'r dymhests fyned drosodd, ac i'r esgob fyned yn ol, aeth yntau drosodd, ac urddwyd ef; a bu yn gweinidogaethu yn Llanllechid amryw flynyddoedd. Darllen Homili y bu, dros ryw amser, yn lle pregethu. Enw y gŵr oedd Rhys Parry: ond am ei fod o radd isel, ac yn enwedig am ei fod yn tueddu at wir grefydd, gelwid ef gan y cyffredin, mewn ffordd o wawd, Syr Rhys.[1] Ond er gwaeled oedd yr offeryn, arddelodd Duw ef i ddychwelyd amryw o'u ffyrdd drgionus, ac i droi eu hwynebau at Dduw: ac er nad oeddynt ond praidd bychain, cawsant eu herlid yn chwerw. Byddai gorfod arnynt ddiangc i'r mynydd i ymgyfarfod i weddïo, i ganu mawl, ac i hyfforddi eu gilydd yn nghylch mater eu heneidiau: ond nid oes hanes i'r symlrwydd oedd yn eu plith barhau nemawr ar ol yr oes hòno. Gadawodd yr esgob y Palas Ofa i dlodion Llanllechid dros byth; ac y mae yr ardreth, sef yr arian, i'w rhanu bob haner blwyddyn. Enw yr esgob oedd Griffith Williams, ond gelwid ef yn gyffredin yr Esgob Williams. Argraffwyd llyfr lled fawr o'i waith,

  1. Y mae yr awdwr yn gwneuthur camgymeriad bychan yma. Nid mewn "ffordd o wawd" y gelwid ef Syr Rhys, oblegyd Syr ydoedd teitl cyffredin curadiaid yn yr oes hono:—Gol.