Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iad y. Weithred o Oddefiad (Act of Toleration,) a bod yr erlidwyr yn agored i gael eu cospi yn ol y gyfraith, ac y caent brofi awchlymder y gyfraith cyn y byddai hir, os na lonyddent. Wedi clywed hyn syrthiodd arswyd ar y dref, ac o hyny allan cafodd yr Ymneillduwyr lonydd i addoli Duw yn heddychol.

YMOF. A barhaodd y Canghellwr y soniasoch am dano i chwythu bygythion, ac i erlid yr efengyl? neu ynte, a ddarfu iddo chwydu allan ei wenwyn i gyd yn y bregeth gableddus hono yn Llannor?

SYL. Nid oedd y dymhestl ond dechreu y pryd hyny: ond cynyddodd yr erlidigaeth fwy fwy mewn amryw fanau yn y wlad. Lluniodd y Canghellwr a'i frodyr parchedig gyfarfod 'i fod bob bore Mercher yn Dyneio, yn agos i Bwllheli, o flaen y farchnad i bregethu yn erbyn y cyfeiliornadau dinystriol, yn eu tyb hwy, oedd yn ymdaenu ar hyd y wlad. Yr oedd y rhan fwyaf o Eglwyswyr yr ardaloedd i ddyfod yno, a phob un yn ei dro i bregethu, gan ymdrechu yn egnïol i wrthsefyll yr heresiau dinystriol ag oedd yn codi yn ein mysg. Eu testynau fyddai y rhai'n a'r cyffelyb, "Ymogelwch rhag gậu brophwydi.—A chanddynt rith duwioldeb, eithr gwedi gwadu ei grym hi.—Y rhai hyn yw y rhai sydd yn ymlusgo i deiau, gan ddwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau," &c.

Yr oedd pregethu yn mhlwyf Llannor, yn Mryn tani, a rhyw fanau ereill, yn fuan ar ol dechreu y diwygiad; a byddai y Canghellwr a'i fintai yn astud iawn i fyned yno i erlid. Yr oedd hefyd wr boneddig yn byw yn y plwyf, un John Llwyd, Yswain, o'r Tŷ newydd, yr hwn oedd ysgolhaig rhagorol: ond yr oedd y Canghellwr ac yntau mewn eithaf gelyniaeth a'u gilydd. Pan y delai y Canghellwr a'i blaid i erlid, byddai y gwr boneddig yn sicr o fod yn ei gyfarfod wrth y drws; a gofynai iddo, "Beth yw dy neges di yma, John Owen?" Yna tröent i ymddiddan yn Saes'neg, yna yn Lladin, a thrachefn yn Groeg. Ond ni allai y Canghellwr siarad yr iaith Groeg; yna y dirmygai y gŵr boneddig ef i'r eithaf, a dywedai wrtho, "Gollyngais yn anghof fwy nag a ddysgaist ti erioed." Felly gorfyddai i'r Canghellwr fyned ymaith dan ei warth; a chai y plant fendith yn y tŷ o dan weinidogaeth y gair tra byddai y ddau wr boneddig yn ymgecru â'u gilydd oddiallan. Yr oedd yn y cyfamser glochydd yn Llannor, yn ddyn celfyddgar, yn arddwr, yn ysgolhaig, ac yn brydydd; yn byw yn gryno a chysurus, ac yn gyfaill mawr â'r Canghellwr. Cafodd anogaeth gan ei Feistr i gyfansoddi coeg-chwareu (Interlude,) gan ddarlunio ynddi amryw bersonau, megys Whitfield, "Harris, ac amryw ereill, yn y modd mwyaf gwarthus, erlidgar, a rhyfygus, ag y gallai ingc a phapur osod allan. Argraffwyd y gwaith, a