Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chafodd lawer o arian gan amryw yn y wlad am ei waith cableddus. Arweiniodd ei feistr ef un tro i gyfarfod oedd gan foneddigion mewn palas a elwir Bodfel, yn agos i Bwllheli, a than guro ei gefn, dywedodd wrth y cwmni, "Gwelwch, foneddigion! dyma y gŵr a wnaeth y gwaith." Ar hyny cyfranodd y boneddigion iddo yn y fan ddeg gini a deugain. Nid hir wedi hyn y bu y farn heb ei orddiwes. Fel yr oedd yn dychwelyd adref o argraffu ei lyfr, trôdd i felin gerllaw y Bala i orphwyso. Gofynodd y rhai oedd yn dygwydd bod yno iddo, beth oedd ganddo yn ei gludo. Atebodd yntau (gan ddysgwyl cael parch mawr am ei chwedl) mai Interlude oedd ganddo yn erbyn y Cradocs. "Y distryw mawr (ebe rhei'ny,) pa beth a wnaethant hwy i ti? Yn mha le mae rhâff? ni a'i crogwn ef yn ddioed." Ac er fod y rhei'ny mor ddigrefydd ag yntau, dychrynodd yr adyn yn ddirfawr am ei fywyd. Bryd arall, fel yr oedd y Canghellwr yn rhodio ar hyd y fynwent, dychymygodd fod y clochydd yn ceisio taflu y gloch ar ei gefn. Rhuthrodd ato fel arth, yn llawn cynddaredd, gan haeru yn haerllug ei fod yn ceisio ei ladd. Methodd gan y clochydd ei oddef, ond arth yn mron mor waedwyllt ag yntau: ac os mawr oedd y cariad a fuasai unwaith rhyngddynt, mwy a fu y câs a'r gelyniaeth o hyny allan; a throwyd y clochydd o'i swydd. Yn fuan wedi hyny, aeth i gyfreithio ar ryw achos:ac o ddiffyg dyfod i'r Mwythig ddiwrnod yn gynt, collodd y gyfraith. Ac er yr holl arian a gawsai, syrthiodd i dlodi; ac enyd cyn ei ddiwedd, collodd ei iechyd, a bu farw yn druenus.

YMOF. Soniasoch gryn lawer eisoes am y Canghellwr erlidgar: od oes genych ragor o'i hanes, a diwedd ei daith, dymunwn glywed ymhellach.

SYL. Ei enw oedd John Owen, o enedigaeth o Lanidloes. Cafodd ei ddyrchafu i fod yn ficar Llannor a Dyneio, ac yn Ganghellwr Bangor. Yr oedd yn ddyn hyf a gwrol, ac yn rhagori o ran doniau naturiol ar y rhan fwyaf o'i frodyr parchcdig; a thrwy hyny, daeth lluaws ar y cyntaf i wrando arno; a meddyliodd y werin anwybodus nad oedd ei fath yn y byd. A chan fod y cyfryw dyb dda yn y wlad yn gyffredin am dano, cafodd ei athrawiaethau cableddus rwyddach derbyniad. Dygwyd amryw o rai gwirion a diniwaid o'i flaen yn achos eu crefydd: yntau a ymddygai tuag atynt fel llew creulon, gan daranu bygythion yn eu herbyn, a'u cospi mor belled ag y. goddefai y gyfraith, os nid yn mhellach. A diau pe buasai llywodraeth y Pab heb ei diddymu o'n gwlad, y buasai ef gyda hyfrydwch, fel Bonner gynt, yn eu llusgo yn ddidrugaredd i'r fflamau tân. Danfonodd ef ynghyda rhai ereill ag oeddynt o'r un duedd ag yntau) ryw rai i garchar: ac yn ei gynddaredd rhwygodd wisg uchaf Mr. Lewis Rees â'i gleddyf: Ond nid hir