Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y bu cyn i farn Duw a'i wg ymddangos yn amlwg yn ei erbyn. Adeiladodd felin wynt; a chyn cael dim budd oddiwrthi, daeth rhyw gorwynt dychrynllyd, ac a'i drylliodd yn chwilfriw yn ddisymwth. Adeiladwyd llong iddo gerllaw Pwllheli: ond methwyd ei chael i'r môr mewn modd yn y byd tra bu efe byw; ond ar ol ei farw cafwyd hi i'r môr fel llestr arall. Yr oedd hen ferch dra chythreulig yn byw yn mhlwyf Llannor, a elwid Dorothy Ellis; ond gelwid hi yn gyffredin mewn ffordd o ddifenwad, Dorti Ddu. Aeth amrafael arswydus, ie, gelyniaeth anghymodlon rhwng y Canghellwr a'r hen fenyw hono. Ni adawai lonydd iddo yn un man, yn mysg boneddigion mwy nag yn mysg y cyffredin: rhegai a melldithiai ef, gan daeru yn haerllug ei fod yn ceisio ei threisio. A phan yr elai i'r Llan i bregethu, safai hithau ar gyfer y pulpud i regi ac i felldithio â'i holl egpi. Gorchymynai y Canghellwr i'r Wardeniaid ei llusgo allan: a thrafferth ddirfawr a fyddai ar y rhei'ny yn cael y fath wiber ddychrynllyd o'r Llan. Rhwymid hi weithiau wrth bost yn mhorth y fynwent nes darfod yr addoliad; ond yn y man y darfyddai y Canghellwr a'i wasanaeth, byddai hithau yn mhorth y fynwent yn ei ddysgwy! allan, gan godi ei dillad a syrthio ar ei gliniau noethion i regi a melldithio â'i holl egni yn ddychrynllyd. A chan nad oedd dim yn tycio i'w darostwng, cyhoeddwyd barn o ysgymundod arni. Gwnaed cadair bwrpasol i'w gosod arni i gyfaddef ac i ddywedyd ar ol yr Eglwyswr; dywedai hithau yn union yn y gwrthwyneb: ac yn lle diwygio aeth yn saith ysgymunach. O'r diwedd amharod iechyd y Canghellwr o herwydd ei bod yn ei boeni ac yn ei ofidio beunydd, ac aeth waeth waeth, nes ġ diweddodd ei daith yn eithaf anghysurus yn nghanol ei ddyddiau. Cyn ei farw, gorchymynodd ddwyn ei gorph i Lanidloes i'w gladdu, fel na chai Dorti Ddu, na neb yn Llannor, ei sathru dan eu traed. Tra yr oedd ei gorph yn aros heb ei gladdu, yr oeddynt yn cadw gwyliadwriaeth rhag i'r hen Dorti ruthro ato i'w amharchu: ond er mor wyliadwrus oeddynt, cafodd yn rhyw fodd gyfle i ddyfod i'r ystafell lle yr ydoedd, ac ymaflodd yn ei drwyn, gan ei ysgytio yn dra ffyrnig. A chan na allai ddangos ei chynddaredd tuag ato yn y wlad hon ar ol ei gladdu, aeth yn unswydd i Lanidloes, yn nghylch 80 milldir o ffordd, i wneyd y dirmyg ffieiddiaf a allasai, sef gollwng ei budreddi ar ei fedd!

YMOF. Mae hanes dychrynllyd yr adyn truenus hwn yn dwyn i'm cof eiriau y Šalmydd, "Gosod dithau un annuwiol arno ef." Os oedd gelyniaeth y llewod hyn at eu gilydd mor ofnadwy mewn byd amherffaith, pa beth a fydd pan y rhwymir hwynt ynghyd yn ysgubau i'w llwyr losgi? Ond a ddarfu yr erlidigaeth bellach?