Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

91 YMDDYDDAN RHWNNG BARDD A HEN WR. BARDD . Hen, ŵr hen ŵr, mae'th wallt yn wyn, Ac oer yw'r awel hon, Paham y crwydri wlad mor bell, Oddiwrth d' aneddle lon ? HEN WR. Mae'r gwynt yn oer, a minau'n hên, I deithio' blwy' i blwy', Ond er myn'd dros y byd ni chaf Aneddle gynhes mwy ! Aneddle gynhes mwy Ond er myn'd dros y byd ni chaf Aneddle gynhes mwy ! ! BARDD . Mae genyt blant, hen ŵr, ond d'wed Paham na welaf un, Yn cynorthwyo tad mor lesg I ddringo'r creigiau blin ! HEN WR. Mewn ardal dawel mae fy mhlant, Ni theimlant loes na chlwy' ; Mewn mynwent maent, ac O ! na chawn Aneddle gyda hwy, Aneddle gyda hwy, Mewn mynwent maent, ac O ! na chawn Aneddle gyda hwy.