Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

90 • Ac arlun hardd o gymysg haent Yw natur gan law Ner. Yn cathlu mae y durtur fwyn Ar frig y deliiog bren ; A chân y fronfraith yn y llwyn Sy'n adsain is y nen. Yn esgyn mae yr hedydd brith Uwch ben y ddol -waen werdd ; Gan foli 'i Grewr heb dwyll na rhith, Mewn mwynaidd gyson gerdd. Ac mal y gref a'r gyflym saeth, A'r wenol heibio'n hy', Gan herio dyn i'w gwneud yn gaeth Yn lle y Negro du. Yr ednod mân sy ' w gwel'd yn gwau Yn lluoedd uwch y llawr ; Bob un yn brysur wrth fwynhau Ei bleser " enyd awr." Myn'd heibio mae'r wenynen gall I'w chwch yn llawn o sel, Gan ddifyr sïo yn ddiball Wrth gludo ' i stor o fêl. Draw ar y werddlas ddôl mae'r ŵyn Yn ymddifyru'n llon, Gan brancio gylch eu mamau mwyn, Heb bryder is y fron. Gwel ogoneddus deyrn y dydd A'i harddwych ruddgoch wedd , Wrth fachlud yn pregethu- Ffydd— O'i freiniawl ddysglair sedd . Mae pobpeth yn arddangos Duw Fel gweithydd doeth a da ; Fy enaid gwel a chanmol Dduw Ar derfyn d'wrnod Ha'. G. GWENFfrwd.