Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

104 Byddar ydwyt i fy ymbil, For didostur ! ddofn dy grombil : Trof at Un a all dy farchog Pan bo'th dònau yn gynddeiriog ; Cymmer Ef fy ngwr i'w gysgod, A gwna di'n dawel ar dy dywod. ARWYRAIN MEIRION. Fel ' roeddwn ar foreu'n myfyrio fy hun, Mewn ardal bellenig mor unig a'r un; Rhoes hiraeth i'm calon rhyw greulon oer gri, Wrth gofio mor dirion oedd Meirion i mi. Wrth edrych i'r caeau a bryniau pob bro A gwel'd anifeiliaid a defaid yn dô Er teced, er hardded , er amled eu rhi' Nid unlle mor dirion a Meirion i mi. ALUN. Mae'r wlad lle rwy'n trigo yn ffrydio o bob ffrwyth, Er hyn nid yw felly'n llonyddu fy llwyth ; Caf 'fonydd, rai dyfnion, a llyfinion eu lli', Ond nentydd a bronydd Meirionydd i mi. Ond dyfroedd ' r afonydd sy'n llonydd fel llyn, Rhai afiach i'w hyfed mewn syched, mae'n syn : Hoff anwyl ffynonau rai aml eu rhi', Afonydd glân gloywon gwlad Meirion i mi. 'Rwy'n cael yn bur dirion drigolion y tir, Cyfeillion daionus, awyddus yn wir. Mae ' nheulu anwylion, cyfeillion mwyn cu, Yn llawer mwy boddlon yn Meirion na mi. Mae imi yn Meirion gyfoedion go fwyn Rhai bu'm i'n cyd -chwareu yn llanciau ' mhob llwyn : Wrth gofio'r holl bleser a'r mwynder gaem ni, Hiraethu mae'm calon am Meirion i mi.